Ecclesiasticus (Sirach) 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 2

1Fy mab os deui i wasanaethu’r Arglwydd, paratoa dy enaid i brofedigaeth.

2Uniona dy galon, a dioddef: ac na wna frys yn amser trallod.

3Glŷn wrtho ef heb ymado, fel y’th gynydder yn dy ddiwedd.

4Derbyn yn llawen yr hyn a ddigwyddo; a bydd ymarhous wrth dy gyfnewid i ostyngiad.

5Oblegid aur a brofir yn tân, a dynion cymeradwy yn ffwrn gostyngiad.

6Cred ynddo ef, ac efe a’th dderbyn di: uniona dy lwybrau, a gobeithia ynddo ef.

7Y rhai ydych yn ofni’r Arglwydd, credwch iddo ef, ac ni phalla eich gwobr chwi.

8Y rhai ydych yn ofni’r Arglwydd, gobeithiwch am ddaioni, ac am lawenydd tragwyddoldeb, a thrugaredd.

9Y rhai ydych yn ofni’r Arglwydd, ymarhoswch am ei drugaredd ef; ac na chiliwch, rhag eich syrthio.

10Edrychwch ar y cenedlaethau gynt, a gwelwch; pwy a ymddiriedodd i’r Arglwydd, ac a waradwyddwyd? neu pwy a arhosodd yn ei ofn ef, ac a adawyd? neu pwy a alwodd arno ef, ac yntau yn ei ddiystyru ef?

11Oblegid tosturiol, a thrugarog, ymarhous, ac aml o drugaredd, yw’r Arglwydd: ac y mae efe yn maddau pechodau, ac yn achub yn amser trallod.

12Gwae’r calonnau ofnus, a’r dwylo llesg, a’r pechadur a gerddo ddau lwybr!

13Gwae’r galon-lesg! Oherwydd nid yw yn credu; am hynny ni amddiffynnir ef.

14Gwae chwi, y rhai a gollasoch amynedd! a pha beth a wnewch chwi pan ymwelo’r Arglwydd â chwi?

15Y rhai a ofnant yr Arglwydd ni anghredant ei eiriau ef; a’r rhai a’i carant ef a gadwant ei ffyrdd ef.

16Y rhai a ofnant yr Arglwydd a geisiant yr hyn sy dda ganddo ef; a’r rhai a’i carant ef a lenwir a’r gyfraith.

17Y rhai a ofnant yr Arglwydd a baratoant eu calonnau, ac a ostyngant eu heneidiau ger ei fron ef,

18Gan ddywedyd, Syrthiwn yn nwylo Duw, ac nid yn nwylo dynion: oherwydd fel y mae ei fawredd ef, felly y mae ei drugaredd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help