Exodus 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr ARGLWYDD; ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed.

2Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr ARGLWYDD?

3A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o’r Aifft, i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid, â syched?

4A Moses a lefodd ar yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a’m llabyddiant i.

5A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon â hi, a cherdda.

6Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo’r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel.

7Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A ydyw yr ARGLWYDD yn ein plith, ai nid yw?

8Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim.

9A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen DUW yn fy llaw.

10Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn.

11A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf.

12A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul.

13A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf.

14A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd.

15A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH-Nissi.

16Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o’r ARGLWYDD, y bydd i’r ARGLWYDD ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help