Amos 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango.

2Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno:

3A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y môr, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt:

4Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt.

5Ac ARGLWYDD DDUW y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft.

6Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw.

7Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr ARGLWYDD: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a’r Philistiaid o Cafftor, a’r Syriaid o Cir?

8Wele lygaid yr ARGLWYDD ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr ARGLWYDD.

9Canys wele, myfi a orchmynnaf, ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr.

10Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.

11Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt:

12Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr ARGLWYDD, yr hwn a wna hyn.

13Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a’r holl fryniau a doddant.

14A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt.

15Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr ARGLWYDD dy DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help