Y Salmau 96 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 96

1Cenwch i’r ARGLWYDD ganiad newydd; cenwch i’r ARGLWYDD, yr holl ddaear.

2Cenwch i’r ARGLWYDD, bendigwch ei enw; cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.

3Datgenwch ymysg y cenhedloedd ei ogoniant ef, ymhlith yr holl bobloedd ei ryfeddodau.

4Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy yw efe goruwch yr holl dduwiau.

5Canys holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod: ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

6Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr.

7Tylwythau y bobl, rhoddwch i’r ARGLWYDD, rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.

8Rhoddwch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch offrwm, a deuwch i’w gynteddoedd.

9Addolwch yr ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd: yr holl ddaear, ofnwch ger ei fron ef.

10Dywedwch ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu; a’r byd a sicrhaodd efe, fel nad ysgogo: efe a farna y bobl yn uniawn.

11Llawenhaed y nefoedd, a gorfoledded y ddaear; rhued y môr a’i gyflawnder.

12Gorfoledded y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo: yna holl brennau y coed a ganant.

13O flaen yr ARGLWYDD; canys y mae yn dyfod, canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd trwy gyfiawnder, a’r bobloedd â’i wirionedd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help