1A bu, wedi’r pla, lefaru o’r ARGLWYDD wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd,
2Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel.
3A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd
4Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.
5Reuben, cyntaf-anedig Israel. Meibion Reuben; o Hanoch, tylwyth yr Hanochiaid: o Phalu, tylwyth y Phaluiaid:
6O Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Carmi, tylwyth y Carmiaid.
7Dyma dylwyth y Reubeniaid: a’u rhifedigion oedd dair mil a deugain a saith cant a deg ar hugain.
8A meibion Phalu oedd Elïab.
9A meibion Elïab; Nemuel, a Dathan, ac Abiram. Dyma y Dathan ac Abiram, rhai enwog yn y gynulleidfa, y rhai a ymgynenasant yn erbyn Moses ac yn erbyn Aaron yng nghynulleidfa Cora, pan ymgynenasant yn erbyn yr ARGLWYDD.
10Ac agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a Cora hefyd, pan fu farw y gynulleidfa, pan ddifaodd y tân ddengwr a deugain a dau cant: a hwy a aethant yn arwydd.
11Ond meibion Cora ni buant feirw.
12Meibion Simeon, wrth eu tylwythau. O Nemuel, tylwyth y Nemueliaid: o Jamin, tylwyth y Jaminiaid: o Jachin, tylwyth y Jachiniaid:
13O Sera, tylwyth y Serahiaid: o Saul, tylwyth y Sauliaid.
14Dyma dylwyth y Simeoniaid; dwy fil ar hugain a dau cant.
15Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid:
16O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid:
17O Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid.
18Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.
19Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan.
20A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pheresiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid.
21A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid.
22Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant.
23Meibion Issachar, wrth eu tylwythau oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o Pua, tylwyth y Puhiaid:
24O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid.
25Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.
26Meibion Sabulon, wrth eu teuluoedd, oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid.
27Dyma deuluoedd y Sabuloniaid, dan eu rhif; trigain mil a phum cant.
28Meibion Joseff, wrth eu teuluoedd, oedd; Manasse ac Effraim.
29Meibion Manasse oedd; o Machir, tylwyth y Machiriaid: a Machir a genhedlodd Gilead: o Gilead y mae tylwyth y Gileadiaid.
30Dyma feibion Gilead. O Jeeser, tylwyth Jeeseriaid: o Helec, tylwyth yr Heleciaid:
31Ac o Asriel, tylwyth yr Asrieliaid: ac o Sechem, tylwyth y Sechemiaid:
32Ac o Semida, tylwyth y Semidiaid: ac o Heffer, tylwyth yr Hefferiaid.
33A Salffaad mab Heffer nid oedd iddo feibion, ond merched: ac enwau merched Salffaad oedd, Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Tirsa.
34Dyma dylwyth Manasse: a’u rhifedigion oedd ddeuddeng mil a deugain a saith cant.
35Dyma feibion Effraim, wrth eu teuluoedd. O Suthela, tylwyth y Sutheliaid; o Becher, tylwyth y Becheriaid: o Tahan, tylwyth y Tahaniaid.
36A dyma feibion Suthela: o Eran, tylwyth yr Eraniaid.
37Dyma dylwyth meibion Effraim, trwy eu rhifedigion; deuddeng mil ar hugain a phum cant. Dyma feibion Joseff, wrth eu teuluoedd.
38Meibion Benjamin, wrth eu teuluoedd oedd; o Bela, tylwyth y Belaiaid: o Asbel, tylwyth yr Asbeliaid: o Ahiram, tylwyth yr Ahiramiaid:
39O Seffuffam, tylwyth y Seffuffamiaid: o Huffam, tylwyth yr Huffamiaid.
40A meibion Bela oedd, Ard a Naaman: o Ard yr ydoedd tylwyth yr Ardiaid: o Naaman, tylwyth y Naamaniaid.
41Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.
42Dyma feibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. O Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl eu teuluoedd.
43A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrigain a phedwar cant.
44Meibion Aser, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Bereia tylwyth y Bereiaid.
45O feibion Bereia, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malciel, tylwyth y Malcieliaid.
46Ac enw merch Aser ydoedd Sara.
47Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
48Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid:
49O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.
50Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant.
51Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.
52A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
53I’r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau.
54I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.
55Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant
56Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.
57A dyma rifedigion y Lefiaid, wrth eu teuluoedd. O Gerson, tylwyth y Gersoniaid: o Cohath, tylwyth y Cohathiaid: o Merari, tylwyth y Merariaid.
58Dyma dylwythau y Lefiaid. Tylwyth y Libniaid, tylwyth yr Hebroniaid, tylwyth y Mahliaid, tylwyth y Musiaid, tylwyth y Corathiaid: Cohath hefyd a genhedlodd Amram.
59Ac enw gwraig Amram oedd Jochebed, merch Lefi, yr hon a aned i Lefi yn yr Aifft: a hi a ddug i Amram, Aaron a Moses, a Miriam eu chwaer hwynt.
60A ganed i Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar.
61A bu farw Nadab ac Abihu, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr ARGLWYDD.
62A’u rhifedigion oedd dair mil ar hugain; sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod: canys ni chyfrifwyd hwynt ymysg meibion Israel, am na roddwyd iddynt etifeddiaeth ymhlith meibion Israel.
63Dyma rifedigion Moses ac Eleasar yr offeiriad, y rhai a rifasant feibion Israel yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
64Ac yn y rhai hyn nid oedd un o rifedigion Moses ac Aaron yr offeiriad, pan rifasant feibion Israel yn anialwch Sinai.
65Canys dywedasai yr ARGLWYDD amdanynt, Gan farw y byddant feirw yn yr anialwch. Ac ni adawsid ohonynt un, ond Caleb mab Jeffunne, a Josua mab Nun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.