Ecclesiasticus (Sirach) 26 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 26

1Gwyn ei fyd gŵr y wraig dda: canys dyblir rhifedi ei ddyddiau ef.

2Gwraig rymus a lawenycha ei gŵr: ac efe a gyflawna flynyddoedd ei fywyd mewn heddwch.

3Rhan dda yw gwraig dda; ac yn rhan y rhai sydd yn ofni’r Arglwydd y rhoddir hi.

4Pa un bynnag fyddo dyn ai tlawd ai cyfoethog, o bydd ganddo galon dda at yr Arglwydd, efe a orfoledda bob amser yn wyneb-siriol.

5Rhag tri pheth yr arswydodd fy nghalon i, a rhag y pedwerydd yr ofnais yn ddirfawr; Enllib dinas, ac ymgasgliad torf afreolus, a gau dystiolaeth; blinach nag angau yw y rhai hyn oll.

6Baich calon, a galar, yw gwraig yn dal eiddigedd wrth wraig, a ffrewyll y tafod yn cyfrannu â phawb.

7Iau ychen yn siglo yw gwraig ddrwg; ac y mae ei pherchennog megis yn ymaflyd mewn ysgorpion.

8Dicter mawr yw gwraig feddw ac ynfyd; ac ni chela hi ei gwarth ei hun.

9Puteindra gwraig a adwaenir wrth ddyrchafiad ei llygaid a’i hamrantau.

10Dod gadwraeth sicr ar ferch anhywaith, rhag, os caiff hi ryddid, iddi ei chamarfer ei hun.

11Gwylia ar y llygad digywilydd; ac na ryfedda os gwna hi gam â thi.

12Fel yr egyr fforddol sychedig ei safn pan gaffo ffynnon; felly yr yf hi o bob dwfr cyfagos, ac yr eistedd wrth bob pawl, ac yr egyr ei chawell yn erbyn pob saeth.

13Gras gwraig a wna ei gŵr yn hyfryd; a’i gwybodaeth hi a wna ei esgyrn ef yn freision.

14Rhodd yr Arglwydd yw gwraig ddistaw garedig: ac nid oes cydwerth i enaid a gymerodd addysg.

15Gras ar ras yw gwraig gywilyddgar a ffyddlon: ac nid oes dim a ddichon gydbwyso ei diwair feddwl hi.

16Fel y mae’r haul yn codi yn uchel leoedd yr Arglwydd, felly y mae tegwch gwraig dda yn llywodraethu ei thŷ.

17Fel cannwyll yn goleuo yn y canhwyllbren sanctaidd, felly y mae tegwch pryd mewn llawn oedran.

18Fel colofnau aur mewn morteisiau arian, felly y mae traed prydferth gyda dwyfron ddianwadal.

19Fy mab, cadw flodau dy ieuenctid yn iach, ac na ddod dy gryfder i ddieithriaid.

20Wedi i ti gael rhan ffaeth o’r maes oll, heua dy had dy hun, gan obeithio yn dy fonedd dy hun.

21Felly dy hiliogaeth, yr hon a adawech, a fawrheir, â hyder ganddynt ar eu bonedd.

22Gwraig ar werth a gyfrifir ei bod un wedd â hwch: a’r briod a gyfrifir yn dŵr yn erbyn marwolaeth i’w gŵr.

23Gwraig annuwiol a roddir yn rhan i ŵr anwir: a’r dduwiol a roddir i’r hwn sydd yn ofni’r Arglwydd.

24Gwraig anonest a ddiystyra amarch; eithr merch onest a barcha ei gŵr.

25Megis ci y cyfrifir gwraig ddigywilydd: a’r gywilyddgar a ofna’r Arglwydd.

26Y wraig sydd yn perchi ei gŵr ei hun, a wêl pawb yn ddoeth: a’r hon a’i hamharcho ef yn ei balchder, a gydnebydd pawb ei bod yn annuwiol.

27Am wraig floeddgar a siaradus yr edrychir i darfu gelynion.

28Am ddau beth y mae fy nghalon i yn athrist, ac am y trydydd y daeth arnaf ddicter; Bod rhyfelwr yn anghenus trwy eisiau, a dirmygu gwŷr synhwyrol, ac un yn dychwelyd oddi wrth gyfiawnder at bechod: yr Arglwydd a’i paratoa ef i’r cleddyf.

29Anodd yw i farsiandwr ymgadw rhag gwneuthur cam; ac ni chyfiawnheir tafarnwr oddi wrth bechod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help