1Yr hwn sydd yn byw byth a greodd bob peth yn gyffredinol.
2Yr Arglwydd yn unig sydd gyfiawn, ac nid oes neb ond efe:
3Yr hwn â rhychwant ei law sydd yn llywodraethu’r byd, ie, ac y mae pob peth yn ufuddhau i’w ewyllys ef: oblegid y mae efe yn frenin ar bob peth, trwy ei nerth yn gwahanu ynddynt hwy y pethau sanctaidd oddi wrth y pethau halogedig.
4I bwy y parodd efe fynegi ei weithredoedd? a phwy a olrheiniodd allan ei fawrion weithredoedd ef?
5Pwy a rif gadernid ei fawredd ef? a phwy a esyd ar draethu ei drugaredd ef?
6Ni ellir lleihau na chwanegu, ac ni ellir olrhain allan, ryfeddodau’r Arglwydd.
7Pan orffenno dyn, yna y dechrau efe; a phan beidio efe, yna efe a betrusa.
8Pa beth yw dyn? a pha fudd sydd ohono ef? beth yw ei dda ef? a pha beth yw ei ddrwg ef?
9Rhifedi dyddiau dyn ydynt gan mlynedd o’r mwyaf.
10Fel defnyn o ddwfr wrth y môr, ac fel greyenyn wrth y tywod, yw mil o flynyddoedd wrth ddyddiau tragwyddoldeb.
11Am hynny y mae yr Arglwydd yn ymaros wrthynt hwy, ac yn tywallt ei drugarred arnynt.
12Efe a welodd ac a wybu fod eu diwedd hwy yn ddrwg: am hynny efe a wnaeth ei drugaredd yn aml.
13Trugaredd dyn sy tuag at ei gymydog, a thrugaredd yr Arglwydd ar bob cnawd; yn argyhoeddi, ac yn addysgu, ac yn athrawiaethu, ac yn troi, fel y gwna bugail ei braidd.
14Y mae efe yn trugarhau wrth y rhai sy’n derbyn addysg, ac wrth y rhai sydd yn brysio at ei farnedigaethau ef.
15Fy mab, na ddifwyna dy weithredoedd da, ac na ddod air drwg sarrug wrth roddi peth.
16Onid yw’r gwlith yn gostwng y gwres? felly gwell yw gair na rhodd.
17Wele, onid gwell yw gair na rhodd dda? eithr gyda’r graslon y mae pob un o’r ddau.
18Un ffôl a ddannod yn daeogaidd; a rhodd y cenfigennus a wna i’r llygaid ballu.
19Cyn llefaru, dysg: a chyn afiechyd, cymer feddyginiaeth.
20Cyn barn, hola di dy hun; ac yn amser gofwy ti a gei drugaredd.
21Cyn dy glafychu, ymddarostwng trwy ddirwest; ac yn amser pechod, dangos edifeirwch.
22Na ad i ddim dy rwystro i dalu dy adduned mewn pryd; ac nac oeda ymgyfiawnhau hyd farwolaeth.
23Ymbaratoa cyn gweddïo; ac na fydd fel dyn yn temtio’r Arglwydd.
24Meddwl am y digofaint a fydd yn y diwedd; ac amser dialedd, pan droer ei wyneb ef ymaith.
25Yn amser amldra, meddwl am amser newyn; ac yn amser cyfoeth, am dlodi ac eisiau.
26O’r bore hyd yr hwyr y newidia amser; a phob peth a wneir yn fuan gerbron yr Arglwydd.
27Ar ddyn doeth y bydd ofn duwiol ym mhob peth, ac yn amser pechod efe a ymochel rhag amryfusedd; a’r angall ni cheidw amser.
28Pob un synhwyrol a edwyn ddoethineb ac addysg; ac efe a rydd fawl i’r hwn a’i cafodd hi.
29Y rhai a fuant ddeallus mewn ymadroddion, a aethant hefyd yn ddoethion eu hunain.
30Na ddos ar ôl dy chwantau, eithr ymatal oddi wrth dy awydd.
31Os rhoddi i’th enaid yr hyn a ryngo bodd iddo, yna y gwnei di i’th elynion chwerthin, y rhai sydd yn cenfigennu wrthyt.
32Na ymlawenycha mewn llawer o ddanteithrwydd, ac nac ymrwym i’r draul.
33Na ddos yn dlawd trwy wledda wrth fenthycio, heb ddim yn dy bwrs; canys felly y byddit ti enwog gynllwynwr i’th einioes dy hun.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.