1 Corinthiaid 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyffyrddai â gwraig.

2Ond rhag godineb, bydded i bob gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gŵr ei hun.

3Rhodded y gŵr i’r wraig ddyledus ewyllys da; a’r un wedd y wraig i’r gŵr.

4Nid oes i’r wraig feddiant ar ei chorff ei hun, ond i’r gŵr; ac yr un ffunud, nid oes i’r gŵr feddiant ar ei gorff ei hun, ond i’r wraig.

5Na thwyllwch eich gilydd, oddieithr o gydsyniad dros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temtio o Satan chwi oherwydd eich anlladrwydd.

6A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganiatâd, nid o orchymyn.

7Canys mi a fynnwn fod pob dyn fel fi fy hun: eithr y mae i bob un ei ddawn ei hun gan Dduw; i un fel hyn, ac i arall fel hyn.

8Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a’r gwragedd gweddwon, Da yw iddynt os arhosant fel finnau.

9Eithr oni allant ymgadw, priodant: canys gwell yw priodi nag ymlosgi.

10Ac i’r rhai a briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd, Nad ymadawo gwraig oddi wrth ei gŵr:

11Ac os ymedy hi, arhoed heb briodi, neu, cymoder hi â’i gŵr: ac na ollynged y gŵr ei wraig ymaith.

12Ac wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi, nid yr Arglwydd, Os bydd i un brawd wraig ddi-gred, a hithau yn fodlon i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith.

13A’r wraig, yr hon y mae iddi ŵr di-gred, ac yntau yn fodlon i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef.

14Canys y gŵr di-gred a sancteiddir trwy’r wraig, a’r wraig ddi-gred a sancteiddir trwy’r gŵr: pe amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.

15Eithr os yr anghredadun a ymedy, ymadawed. Nid yw’r brawd neu’r chwaer gaeth yn y cyfryw bethau; eithr Duw a’n galwodd ni i heddwch.

16Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost tithau, ŵr, a gedwi di dy wraig?

17Ond megis y darfu i Dduw rannu i bob un, megis y darfu i’r Arglwydd alw pob un, felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr eglwysi oll.

18A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno.

19Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchmynion Duw.

20Pob un yn yr alwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed.

21Ai yn was y’th alwyd? na fydded gwaeth gennyt; eto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha hynny yn hytrach.

22Canys yr hwn, ac ef yn was, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i’r Arglwydd ydyw: a’r un ffunud yr hwn, ac efe yn ŵr rhydd, a alwyd, gwas i Grist yw.

23Er gwerth y’ch prynwyd; na fyddwch weision dynion.

24Yn yr hyn y galwyd pob un, frodyr, yn hynny arhosed gyda Duw.

25Eithr am wyryfon, nid oes gennyf orchymyn yr Arglwydd: ond barn yr ydwyf yn ei roi, fel un a gafodd drugaredd gan yr Arglwydd i fod yn ffyddlon.

26Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn, oherwydd yr anghenraid presennol, mai da, meddaf, i ddyn fod felly.

27A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddi wrth wraig? na chais wraig.

28Ac os priodi hefyd, ni phechaist: ac os prioda gwyry, ni phechodd. Er hynny y cyfryw rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.

29A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyr. Y mae yn ôl, fod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt;

30A’r rhai a wylant, megis heb wylo; a’r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a’r rhai a brynant, megis heb feddu;

31A’r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.

32Eithr mi a fynnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau’r Arglwydd, pa wedd y bodlona’r Arglwydd:

33Ond y neb a wreicaodd, sydd yn gofalu am bethau’r byd, pa wedd y bodlona ei wraig.

34Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng gwraig a gwyry. Y mae’r hon sydd heb briodi, yn gofalu am y pethau sydd yn perthyn i’r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd yng nghorff ac ysbryd: ac y mae’r hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol, pa fodd y rhynga hi fodd i’w gŵr.

35A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesâd i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidd-dra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahân.

36Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tuag at ei wyry, od â hi dros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly; gwnaed a fynno, nid yw yn pechu: priodant.

37Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, ac yn afraid iddo, ac â meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hun, ac a roddodd ei fryd ar hynny yn ei galon, ar gadw ohono ei wyry; da y mae yn gwneuthur.

38Ac am hynny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.

39Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi’r neb a fynno; yn unig yn yr Arglwydd.

40Eithr dedwyddach yw hi os erys hi felly, yn fy marn i: ac yr ydwyf finnau yn tybied fod Ysbryd Duw gennyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help