1 Cronicl 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A holl Israel a rifwyd wrth eu hachau, ac wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr brenhinoedd Israel a Jwda; a hwy a gaethgludwyd i Babilon am eu camwedd.

2Y trigolion cyntaf hefyd y rhai oedd yn eu hetifeddiaeth yn eu dinasoedd oedd, yr Israeliaid, yr offeiriaid, y Lefiaid, a’r Nethiniaid.

3Ac yn Jerwsalem y trigodd rhai o feibion Jwda, ac o feibion Benjamin, ac o feibion Effraim, a Manasse:

4Uthai mab Ammihud, fab Omri, fab Imri, fab Bani, o feibion Phares fab Jwda.

5Ac o’r Siloniaid; Asaia y cyntaf-anedig, a’i feibion.

6Ac o feibion Sera; Jeuel, a’u brodyr, chwe chant a deg a phedwar ugain.

7Ac o feibion Benjamin, Salu mab Mesulam, fab Hodafia, fab Hasenua,

8Ibneia hefyd mab Jeroham, ac Ela mab Ussi, fab Michri, a Mesulam mab Seffatia, fab Reuel, fab Ibnija;

9A’u brodyr yn ôl eu cenedlaethau, naw cant a deg a deugain a chwech. Y dynion hyn oll oedd bennau-cenedl ar dŷ eu tadau.

10Ac o’r offeiriaid; Jedaia, a Jehoiarib, a Jachin,

11Asareia hefyd mab Hilceia, fab Mesulam, fab Sadoc, fab Meraioth, fab Ahitub, tywysog tŷ DDUW;

12Adaia hefyd mab Jeroham, fab Passur, fab Malceia; a Maasia, mab Adiel, fab Jasera, fab Mesulam, fab Mesilemith, fab Immer.

13A’u brodyr, pennaf ar dŷ eu tadau, yn fil a saith gant a thrigain; yn wŷr galluog o nerth i waith gwasanaeth tŷ DDUW.

14Ac o’r Lefiaid; Semaia mab Hassub, fab Asricam, fab Hasabeia, o feibion Merari,

15Bacbaccar hefyd, Heres, a Galal, a Mataneia mab Micha, fab Sichri, fab Asaff;

16Obadeia hefyd mab Semaia, fab Galal, fab Jeduthun; a Berecheia mab Asa, fab Elcana, yr hwn a drigodd yn nhrefydd y Netoffathiaid.

17Y porthorion hefyd oedd, Salum, ac Accub, a Thalmon, ac Ahiman, a’u brodyr; Salum ydoedd bennaf;

18A hyd yn hyn ym mhorth y brenin o du y dwyrain. Y rhai hyn o finteioedd meibion Lefi oedd borthorion.

19Salum hefyd mab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a’r Corahiaid ei frodyr ef o dylwyth ei dad, oedd ar waith y weinidogaeth, yn cadw pyrth y babell: a’u tadau hwynt ar lu yr ARGLWYDD, oedd yn cadw y ddyfodfa i mewn.

20Phinees hefyd mab Eleasar a fuasai dywysog arnynt hwy o’r blaen: a’r ARGLWYDD ydoedd gydag ef.

21Sechareia mab Meselemia ydoedd borthor drws pabell y cyfarfod.

22Hwynt oll y rhai a etholasid yn borthorion wrth y rhiniogau, oedd ddau cant a deuddeg. Hwynt-hwy yn eu trefydd a rifwyd wrth eu hachau; gosodasai Dafydd a Samuel y gweledydd y rhai hynny yn eu swydd.

23Felly hwynt a’u meibion a safent wrth byrth tŷ yr ARGLWYDD, sef tŷ y babell, i wylied wrth wyliadwriaethau.

24Y porthorion oedd ar bedwar o fannau, dwyrain, gorllewin, gogledd, a deau.

25A’u brodyr, y rhai oedd yn eu trefydd, oedd i ddyfod ar y seithfed dydd, o amser i amser, gyda hwynt.

26Canys dan lywodraeth y Lefiaid hyn, y pedwar pen porthor, yr oedd yr ystafelloedd a thrysorau tŷ DDUW.

27Ac o amgylch tŷ DDUW y lletyent hwy, canys arnynt hwy yr oedd yr oruchwyliaeth, ac arnynt hwy hefyd yr oedd ei agoryd o fore i fore.

28Ac ohonynt hwy yr oedd golygwyr ar lestri y weinidogaeth, ac mewn rhif y dygent hwynt i mewn, ac mewn rhif y dygent hwynt allan.

29A rhai ohonynt hefyd oedd wedi eu gosod ar y llestri, ac ar holl ddodrefn y cysegr, ac ar y peilliaid, a’r gwin, a’r olew, a’r thus, a’r aroglau peraidd.

30Rhai hefyd o feibion yr offeiriaid oedd yn gwneuthur ennaint o’r aroglau peraidd.

31A Matitheia, un o’r Lefiaid, yr hwn oedd gyntaf-anedig Salum y Corahiad, ydoedd mewn swydd ar waith y radell.

32Ac eraill o feibion y Cohathiaid eu brodyr hwynt, oedd ar y bara gosod, i’w ddarparu bob Saboth.

33A dyma y cantorion, pennau-cenedl y Lefiaid, y rhai oedd mewn ystafelloedd yn ysgyfala; oherwydd arnynt yr oedd y gwaith hwnnw ddydd a nos.

34Dyma bennau-cenedl y Lefiaid, pennau trwy eu cenedlaethau: hwy a drigent yn Jerwsalem.

35Ac yn Gibeon y trigodd tad Gibeon, Jehiel; ac enw ei wraig ef oedd Maacha:

36A’i fab cyntaf-anedig ef oedd Abdon, yna Sur, a Chis, a Baal, a Ner, a Nadab,

37A Gedor, ac Ahïo, a Sechareia a Micloth.

38A Micloth a genhedlodd Simeam: a hwythau hefyd, ar gyfer eu brodyr, a drigasant yn Jerwsalem gyda’u brodyr.

39Ner hefyd a genhedlodd Cis, a Chis a genhedlodd Saul, a Saul a genhedlodd Jonathan, a Malcisua, ac Abinadab, ac Esbaal.

40A mab Jonathan oedd Meribbaal; a Meribbaal a genhedlodd Micha.

41A meibion Micha oedd, Pithon, a Melech, a Tharea, ac Ahas.

42Ac Ahas a genhedlodd Jara, a Jara a genhedlodd Alemeth, ac Asmafeth, a Simri; a Simri hefyd a genhedlodd Mosa:

43A Mosa a genhedlodd Binea; a Reffaia oedd ei fab ef, Elasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.

44Ac i Asel yr ydoedd chwech o feibion, a dyma eu henwau hwynt; Asricam, Bocheru, ac Ismael, a Seareia, ac Obadeia, a Hanan. Dyma feibion Asel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help