Y Salmau 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 8I’r Pencerdd ar Gittith, Salm Dafydd.

1 ARGLWYDD ein Iôr ni, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear! yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd.

2O enau plant bychain a rhai yn sugno y peraist nerth, o achos dy elynion, i ostegu y gelyn a’r ymddialydd.

3Pan edrychwyf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd; y lloer a’r sêr, y rhai a ordeiniaist;

4Pa beth yw dyn, i ti i’w gofio? a mab dyn, i ti i ymweled ag ef?

5Canys gwnaethost ef ychydig is na’r angylion, ac a’i coronaist â gogoniant ac â harddwch.

6Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylo; gosodaist bob peth dan ei draed ef:

7Defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd;

8Ehediaid y nefoedd, a physgod y môr, ac y sydd yn tramwyo llwybrau y moroedd.

9 ARGLWYDD ein IÔR, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help