1Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yn y dechreuad pan wnaethpwyd y ddaear, cyn gosod terfynau’r byd, cyn chwythu o’r gwyntoedd,
2Cyn clywed trwst y taranau, cyn gweled disgleirdeb y mellt, cyn gosod seiliau Paradwys,
3Cyn gweled y blodau prydferth, cyn sicrhau’r nerthoedd symudadwy, cyn casglu ynghyd y lliaws aneirif o angylion,
4Cyn dyrchafu uchelderau’r awyr, cyn enwi mesuroedd y ffurfafen, cyn gwresogi’r ffumerau yn Seion,
5Ac o flaen chwilio am y blynyddoedd presennol, a chyn troi dychmygiadau y rhai sydd y pryd hyn yn pechu, cyn selio y rhai a gadwasant y ffydd yn drysor;
6Y pryd hynny yr ystyriais y pethau hyn; a gwnaethpwyd hwynt oll trwof fi yn unig, ac nid trwy arall: a’u diwedd hwynt fydd hefyd trwof fi, ac nid trwy neb arall.
7Yna yr atebais, gan ddywedyd, Beth fydd gwahaniad yr amseroedd? a pha bryd y bydd diwedd y cyntaf, a dechreuad yr hwn sydd yn canlyn?
8Ac efe a ddywedodd wrthyf, O Abraham hyd Isaac, pan anwyd iddo ef Jacob ac Esau, llaw Jacob o’r dechrau a ddaliodd sawdl Esau:
9Canys Esau yw diwedd y byd hwn, a Jacob yw dechrau’r byd sydd i ddyfod.
10Llaw dyn sy rhwng sawdl a llaw. Na ofyn i mi mwy, Esdras.
11Yna yr atebais, gan ddywedyd, O Arglwydd lywydd, os cefais ffafr yn dy olwg,
12Atolwg, dangos i’th was ddiwedd dy arwyddion, y rhai y dangosaist i mi ran ohonynt y nos ddiwethaf.
13Ac efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Cyfod ar dy draed, a gwrando lef gref soniarus:
14Daw fel daeargryn: ond y lle yr ydwyt yn sefyll arno nid ysgog.
15Gan hynny pan lefaro efe, nac ofna di; canys am y diwedd y mae’r gair, ac am sylfaen y ddaear y deellir ef.
16A phaham? oblegid y mae’r ymadrodd am y pethau hyn yn crynu ac yn cynhyrfu: canys efe a ŵyr y bydd rhaid newid diwedd y pethau hyn.
17A digwyddodd pan glywais, mi a godais ar fy nhraed, ac a wrandewais, ac wele lef yn llefaru, a’i sŵn ydoedd fel sŵn llawer o ddyfroedd.
18A hi a ddywedodd, Wele, y dyddiau sydd yn dyfod, y dechreuaf nesáu i ymweled â phreswylwyr y ddaear,
19Ac y dechreuaf ymofyn amdanynt, pa beth ydynt hwy a wnaethant niwed yn anghyfiawn â’u hanghyfiawnder? a pha bryd y cyflawnir cystudd Seion?
20A phan selier y byd yr hwn a ddechrau fyned heibio, yna y gwnaf fi yr arwyddion hyn: Y llyfrau a agorir o flaen y ffurfafen, a phawb a gaiff weled ar unwaith;
21A phlant blwyddiaid a lefarant â ’u lleferydd; gwragedd beichiogion a esgorant ar blant cyn eu hamser ar ben y trimis neu’r pedwar mis, a byw fyddant, a chyfodir hwynt i fyny.
22Ac yn ddisymwth yr ymddengys y mannau a heuwyd, fel y mannau nis heuwyd, a’r celloedd llawn a geir yn wag yn ddisymwth.
23A’r utgorn a gân, a phawb, pan ei clywant, a ofnant yn ddisymwth.
24A’r pryd hynny yr ymladd cyfeillion â’i gilydd fel gelynion, a’r ddaear a ofna a’r rhai a drigant ynddi, a llygaid y ffynhonnau a safant, ac ni redant dros dair awr.
25A phwy bynnag a ddihango rhag y pethau hyn oll a ddangosais i ti, a fydd cadwedig, ac a gaiff weled fy iachawdwriaeth, a diwedd eich byd chwi.
26Y rhai a dderbyniwyd a welant, y rhai ni phrofasant angau er pan eu ganwyd hwynt: a chalon y preswylwyr a newidir, ac a droir i feddwl arall:
27Canys bwrir ymaith ddrygioni, a diffoddir twyll;
28A ffydd a flagura; a llygredigaeth a orchfygir; gwirionedd, yr hon a fu cyhyd yn ddiffrwyth, a ddangosir.
29A phan ymddiddanodd efe â myfi, wele, mi a edrychais bob ychydig ac ychydig ar yr hwn yr oeddwn yn sefyll ger ei fron.
30Ac efe a ddywedodd y geiriau hyn wrthyf, Mi a ddeuthum i ddangos i ti amser y nos sydd yn dyfod.
31Os tydi a weddïi eto ychwaneg, ac a ymprydi saith niwrnod drachefn, myfi a fynegaf i ti liw dydd fwy nag a glywais.
32Canys y Goruchaf a glywodd dy leferydd, y Galluog a welodd dy uniondeb, ac a welodd y diweirdeb oedd gennyt o’th ieuenctid.
33Ac am hynny efe a’m hanfonodd i ddangos i ti y pethau hyn oll, ac i ddywedyd wrthyt, Bydd gysurus, ac nac ofna;
34Ac na phrysura gyda’r amseroedd a aeth heibio, i feddwl oferedd, fel na phrysurech oddi wrth yr amseroedd diwethaf.
35Ac yn ôl hyn yr wylais drachefn, ac yr ymprydiais saith niwrnod eraill, fel y gallwn gyflawni’r tair wythnos a ddywedasai efe wrthyf.
36A’r wythfed nos yr oedd fy nghalon yn flin o’m mewn drachefn, a mi a ddechreuais lefaru gerbron y Goruchaf;
37Canys fy ysbryd a enynnodd yn ddirfawr, a’m henaid oedd mewn caledi.
38A mi a ddywedais, O Arglwydd, ti a ddywedaist o ddechrau y greadigaeth, y dydd cyntaf, gan ddywedyd fel hyn, Gwneler nef a daear: a’th air a aeth yn waith perffaith.
39A’r amser hwnnw yr ydoedd yr Ysbryd, a’r tywyllwch oedd o amgylch, a distawrwydd; a sain lleferydd dyn nid oedd wedi ei lunio eto.
40Yna y gorchmynnaist i oleuni disglair ddyfod allan o’th drysorau, fel yr ymddangosai dy waith di.
41Yr ail dydd y gwnaethost ysbryd y ffurfafen, a gorchmynnaist iddo ymrannu, a gwneuthur dosbarth rhwng y dyfroedd, fel y gallai’r naill ran fyned i fyny, a’r rhan arall aros i waered:
42A’r trydydd dydd y gorchmynnaist i’r dyfroedd ymgasglu yn seithfed ran y ddaear; chwe rhan a sychaist ac a gedwaist, fel y byddai i rai o’r rhain, wedi eu plannu gan Dduw, a’u llafurio, dy wasanaethu di;
43Canys cyn gynted ag yr aeth dy air di allan, yr oedd y gwaith wedi ei wneuthur:
44Canys yn ddisymwth yr oedd ffrwyth mawr ac aneirif, a llawer ac amryw felystra i’r blas, a llysieuau o ddigoll liwiau, ac aroglau o arogl rhyfeddol. A hyn a wnaethpwyd y trydydd dydd.
45Y pedwerydd dydd y gorchmynnaist i’r haul dywynnu, ac i’r lleuad lewyrchu, ac i’r sêr fod mewn trefn:
46A gorchmynnaist iddynt wasanaethu’r dyn, yr hwn oedd i’w wneuthur.
47A’r pumed dydd y dywedaist wrth y seithfed ran, lle’r ydoedd y dyfroedd wedi ymgasglu ynghyd, am iddi ddwyn creaduriaid byw, adar, a physgod: ac felly y bu.
48Y dwfr mud, ac heb fyw ynddo, wrth amnaid Duw a ddygodd bethau byw, fel y gallai pob cenedl foliannu dy weithredoedd rhyfedd di.
49Yna ti a ordeiniaist ddau greadur byw; y naill a elwaist Enoch, a’r llall Lefiathan.
50A didolaist y naill oddi wrth y llall: canys y seithfed ran, lle yr ydoedd y dyfroedd wedi ymgynnull, nis gallai eu dal hwynt ill dau.
51A thi a roddaist i Enoch y naill ran, yr hon a sychwyd y trydydd dydd, fel y gallai efe aros yno, lle y mae mil o fryniau.
52Ond i Lefiathan y rhoddaist y seithfed ran, yr hon sydd wlyb: a chedwaist ef i’w ddifetha gan y neb a fynnech, a phan fynnech.
53A’r chweched dydd y gorchmynnaist i’r ddaear ddwyn allan o’th flaen di anifeiliaid, bwystfilod, ac ymlusgiaid;
54Ac ar ôl y pethau hyn Adda hefyd, yr hwn a ordeiniaist yn dywysog ar dy holl greaduriaid; ac ohono ef y daethom ni oll, a’r bobl a ddewisaist ti hefyd.
55Hyn oll a ddywedais ger dy fron di, O Arglwydd, am i ti wneuthur y byd er ein mwyn ni.
56Am y bobl eraill, y rhai hefyd sydd yn dyfod o Adda, ti a ddywedaist nad ydynt ddim, ond eu bod yn debyg i boeryn; a thi a gyffelybaist eu golud hwy i ddefnyn yn syrthio oddi wrth lestr.
57Am hynny yn awr, O Arglwydd, wele, y cenhedloedd hyn, y rhai a gyfrifwyd erioed megis diddim, a ddechreuasant arglwyddiaethu arnom ni, a’n difetha.
58A ninnau dy bobl di, yr hwn a elwaist yn gyntaf-anedig i ti, yn uniganedig, a’r hwn a’th gâr di yn gu, a roddwyd i’w dwylo hwynt.
59Ac os gwnaethpwyd y byd er ein mwyn ni, paham nad ydym ni yn meddiannu etifeddiaeth gyda’r byd? pa hyd y pery hyn?
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.