1Mawrygaf di, O ARGLWYDD: canys dyrchefaist fi, ac ni lawenheaist fy ngelynion o’m plegid.
2 ARGLWYDD fy NUW, llefais arnat, a thithau a’m hiacheaist.
3 ARGLWYDD, dyrchefaist fy enaid o’r bedd: cedwaist fi yn fyw, rhag disgyn ohonof i’r pwll.
4Cenwch i’r ARGLWYDD, ei saint ef; a chlodforwch wrth goffadwriaeth ei sancteiddrwydd ef.
5Canys ennyd fechan y bydd yn ei lid; yn ei fodlonrwydd y mae bywyd: dros brynhawn yr erys wylofain, ac erbyn y bore y bydd gorfoledd.
6Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni’m syflir yn dragywydd.
7O’th ddaioni, ARGLWYDD, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus.
8Arnat ti, ARGLWYDD, y llefais, ac â’r ARGLWYDD yr ymbiliais.
9Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i’r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?
10Clyw, ARGLWYDD, a thrugarha wrthyf: ARGLWYDD, bydd gynorthwywr i mi.
11Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd;
12Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O ARGLWYDD fy NUW, yn dragwyddol y’th foliannaf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
