1A dyma genedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ym mynydd Sinai.
2Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf-anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.
3Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu.
4A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr ARGLWYDD, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr ARGLWYDD, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.
5A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
6Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.
7A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.
8A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.
9A thi a roddi’r Lefiaid i Aaron, ac i’w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.
10Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
11Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
12Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf-anedig sef pob cyntaf a agoro’r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:
13Canys eiddof fi yw pob cyntaf-anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf-anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf-anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr ARGLWYDD.
14Yr ARGLWYDD hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd
15Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod.
16A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth air yr ARGLWYDD, fel y gorchmynasid iddo.
17A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.
18A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei.
19A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd; Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.
20A meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd; Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau.
21O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid.
22Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phum cant.
23Teuluoedd y Gersoniaid a wersyllant ar y tu ôl i’r tabernacl tua’r gorllewin.
24A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael.
25A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a’r babell, ei tho hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod,
26A llenni’r cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau i’w holl wasanaeth.
27Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid.
28Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cysegr.
29Teuluoedd meibion Cohath a wersyllant ar ystlys y tabernacl tua’r deau.
30A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel.
31A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r allorau, a llestri’r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a’r gaeadlen, a’i holl wasanaeth.
32A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.
33O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari.
34A’u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant.
35A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua’r gogledd.
36Ac yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl, a’i drosolion, a’i golofnau, a’i forteisiau, a’i holl offer, a’i holl wasanaeth,
37A cholofnau’r cynteddfa o amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau.
38A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua’r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a’i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a’r dieithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth.
39Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr ARGLWYDD, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.
40A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf-anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt.
41A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr ARGLWYDD,) yn lle holl gyntaf-anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o anifeiliaid meibion Israel.
42A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo, bob cyntaf-anedig o feibion Israel.
43A’r rhai cyntaf-anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o’u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain.
44A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses gan ddywedyd,
45Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr ARGLWYDD.
46Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thrigain a deucant, o gyntaf-anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid;
47Cymer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cysegr y cymeri. Ugain gera fydd y sicl.
48A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt, i Aaron ac i’w feibion.
49A chymerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid:
50Gan gyntaf-anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian; pump a thrigain a thri chant a mil, o siclau y cysegr.
51A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w feibion, yn ôl gair yr ARGLWYDD, megis y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.