1Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron.
2A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr ARGLWYDD: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.
3A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o’r mis cyntaf: trannoeth wedi’r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll.
4(A’r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf-anedig, y rhai a laddasai yr ARGLWYDD yn eu mysg; a gwnaethai yr ARGLWYDD farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.)
5A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth.
6A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch.
7A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi-hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal-seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.
8A chychwynasant o Pi-hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i’r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.
9A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno.
10A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch.
11A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.
12Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca.
13A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus.
14A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i’r bobl i’w yfed.
15A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai.
16A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth-hattaafa.
17A chychwynasant o Cibroth-hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth.
18A chychwynasant o Haseroth, a gwersyllasant yn Rithma.
19A chychwynasant o Rithma, a gwersyllasant yn Rimmon-pares.
20A chychwynasant o Rimmon-pares, a gwersyllasant yn Libna.
21A chychwynasant o Libna, a gwersyllasant yn Rissa.
22A chychwynasant o Rissa, a gwersyllasant yn Cehelatha.
23A chychwynasant o Cehelatha, a gwersyllasant ym mynydd Saffer.
24A chychwynasant o fynydd Saffer, a gwersyllasant yn Harada.
25A chychwynasant o Harada, a gwersyllasant ym Maceloth.
26A chychwynasant o Maceloth a gwersyllasant yn Tahath.
27A chychwynasant o Tahath, a gwersyllasant yn Tara.
28A chychwynasant o Tara, a gwersyllasant ym Mithca.
29A chychwynasant o Mithca, a gwersyllasant yn Hasmona.
30A chychwynasant o Hasmona, a gwersyllasant ym Moseroth.
31A chychwynasant o Moseroth, a gwersyllasant yn Bene-jaacan.
32A chychwynasant o Bene-jaacan, a gwersyllasant yn Hor-hagidgad.
33A chychwynasant o Hor-hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha.
34A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona.
35A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion-gaber.
36A chychwynasant o Esion-gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades.
37A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom.
38Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr ARGLWYDD; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis.
39Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor.
40A’r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel.
41A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona.
42A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon,
43A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth.
44A chychwynasant o Oboth, a gwersyllasant yn Ije-abarim, ar derfyn Moab.
45A chychwynasant o Ije-abarim, a gwersyllasant yn dibon-gad.
46A chychwynasant o Dibon-gad, a gwersyllasant yn Almon-diblathaim.
47A chychwynasant o Almon-diblathaim, a gwersyllasant ym mynyddoedd Abarim, o flaen Nebo.
48A chychwynasant o fynyddoedd Abarim, a gwersyllasant yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.
49A gwersyllasant wrth yr Iorddonen, o Beth-jesimoth hyd wastadedd Sittim, yn rhosydd Moab.
50A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd,
51Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Gan eich bod chwi yn myned dros yr Iorddonen, i dir Canaan;
52Gyrrwch ymaith holl drigolion y tir o’ch blaen, a dinistriwch eu holl luniau hwynt; dinistriwch hefyd eu holl ddelwau tawdd, a difwynwch hefyd eu holl uchelfeydd hwynt.
53A goresgynnwch y tir, a thrigwch ynddo: canys rhoddais y tir i chwi i’w berchenogi.
54Rhennwch hefyd y tir yn etifeddiaeth rhwng eich teuluoedd wrth goelbren; i’r aml chwanegwch ei etifeddiaeth, ac i’r anaml prinhewch ei etifeddiaeth: bydded eiddo pob un y man lle yr êl y coelbren allan iddo; yn ôl llwythau eich tadau yr etifeddwch.
55Ac oni yrrwch ymaith breswylwyr y tir o’ch blaen; yna y bydd y rhai a weddillwch ohonynt yn gethri yn eich llygaid, ac yn ddrain yn eich ystlysau, a blinant chwi yn y tir y trigwch ynddo.
56A bydd, megis yr amcenais wneuthur iddynt hwy, y gwnaf i chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.