Y Salmau 40 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 40I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1Disgwyliais yn ddyfal am yr ARGLWYDD; ac efe a ymostyngodd ataf, ac a glybu fy llefain.

2Cyfododd fi hefyd o’r pydew erchyll, allan o’r pridd tomlyd; ac a osododd fy nhraed ar graig, gan hwylio fy ngherddediad.

3A rhoddodd yn fy ngenau ganiad newydd o foliant i’n DUW ni: llawer a welant hyn, ac a ofnant, ac a ymddiriedant yn yr ARGLWYDD.

4Gwyn ei fyd y gŵr a osodo yr ARGLWYDD yn ymddiried iddo; ac ni thry at feilchion, nac at y rhai a wyrant at gelwydd.

5Lluosog y gwnaethost ti, O ARGLWYDD fy NUW, dy ryfeddodau, a’th amcanion tuag atom: ni ellir yn drefnus eu cyfrif hwynt i ti: pe mynegwn, a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo.

6Aberth ac offrwm nid ewyllysiaist; agoraist fy nghlustiau: poethoffrwm a phech-aberth nis gofynnaist.

7Yna y dywedais, Wele yr ydwyf yn dyfod: yn rhôl y llyfr yr ysgrifennwyd amdanaf.

8Da gennyf wneuthur dy ewyllys, O fy NUW: a’th gyfraith sydd o fewn fy nghalon.

9Pregethais gyfiawnder yn y gynulleidfa fawr: wele, nid ateliais fy ngwefusau; ti, ARGLWYDD, a’i gwyddost.

10Ni chuddiais dy gyfiawnder o fewn fy nghalon; traethais dy ffyddlondeb, a’th iachawdwriaeth: ni chelais dy drugaredd na’th wirionedd yn y gynulleidfa luosog.

11Tithau, ARGLWYDD, nac atal dy drugareddau oddi wrthyf: cadwed dy drugaredd a’th wirionedd fi byth.

12Canys drygau annifeiriol a’m cylchynasant o amgylch: fy mhechodau a’m daliasant, fel na allwn edrych i fyny: amlach ydynt na gwallt fy mhen; am hynny y pallodd fy nghalon gennyf.

13Rhynged bodd i ti, ARGLWYDD, fy ngwaredu: brysia, ARGLWYDD, i’m cymorth.

14Cydgywilyddier a gwaradwydder y rhai a geisiant fy einioes i’w difetha; gyrrer yn eu hôl a chywilyddier y rhai a ewyllysiant i mi ddrwg.

15Anrheithier hwynt yn wobr am eu gwaradwydd, y rhai a ddywedant wrthyf, Ha, ha.

16Llawenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll a’th geisiant: dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth bob amser, Mawryger yr ARGLWYDD.

17Ond yr wyf fi yn dlawd ac yn anghenus; eto yr ARGLWYDD a feddwl amdanaf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti; fy NUW, na hir drig.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help