Eseia 52 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion; gwisg wisgoedd dy ogoniant, sanctaidd ddinas Jerwsalem: canys ni ddaw o’th fewn mwy ddienwaededig nac aflan.

2Ymysgwyd o’r llwch, cyfod, eistedd, Jerwsalem: ymddatod oddi wrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion.

3Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yn rhad yr ymwerthasoch; ac nid ag arian y’ch gwaredir.

4Canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd DDUW, Fy mhobl a aeth i waered i’r Aifft yn y dechreuad, i ymdaith yno; a’r Asyriaid a’u gorthrymodd yn ddiachos.

5Ac yn awr beth sydd yma i mi, medd yr ARGLWYDD, pan ddygid fy mhobl ymaith yn rhad? eu llywodraethwyr a wna iddynt udo, medd yr ARGLWYDD; a phob dydd yn wastad y ceblir fy enw.

6Am hynny y caiff fy mhobl adnabod fy enw: am hynny y cânt wybod y dydd hwnnw, mai myfi yw yr hwn sydd yn dywedyd: wele, myfi ydyw.

7Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed yr hwn sydd yn efengylu, yn cyhoeddi heddwch; a’r hwn sydd yn mynegi daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth; yn dywedyd wrth Seion, Dy DDUW di sydd yn teyrnasu.

8Dy wylwyr a ddyrchafant lef; gyda’r llef y cydganant: canys gwelant lygad yn llygad, pan ddychwelo yr ARGLWYDD Seion.

9Bloeddiwch, cydgenwch, anialwch Jerwsalem: canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, efe a waredodd Jerwsalem.

10Diosgodd yr ARGLWYDD fraich ei sancteiddrwydd yng ngolwg yr holl genhedloedd: a holl gyrrau y ddaear a welant iachawdwriaeth ein DUW ni.

11Ciliwch, ciliwch, ewch allan oddi yno, na chyffyrddwch â dim halogedig; ewch allan o’i chanol; ymlanhewch, y rhai a ddygwch lestri yr ARGLWYDD.

12Canys nid ar frys yr ewch allan, ac nid ar ffo y cerddwch: canys yr ARGLWYDD a â o’ch blaen chwi, a DUW Israel a’ch casgl chwi.

13Wele, fy ngwas a lwydda; efe a godir, a ddyrchefir, ac a fydd uchel iawn.

14Megis y rhyfeddodd llawer wrthyt, (mor llygredig oedd ei wedd yn anad neb, a’i bryd yn anad meibion dynion,)

15Felly y taenella efe genhedloedd lawer; brenhinoedd a gaeant eu genau wrtho ef; canys gwelant yr hyn ni fynegasid iddynt, a deallant yr hyn ni chlywsent.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help