Y Salmau 121 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 121Caniad y graddau.

1Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth.

2Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear.

3Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad.

4Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.

5Yr ARGLWYDD yw dy geidwad: yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.

6Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos.

7Yr ARGLWYDD a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.

8Yr ARGLWYDD a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help