Jeremeia 49 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Am feibion Ammon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Onid oes meibion i Israel? onid oes etifedd iddo? paham y mae eu brenin hwynt yn etifeddu Gad, a’i bobl yn aros yn ei ddinasoedd ef?

2Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, pan wnelwyf glywed trwst rhyfel yn Rabba meibion Ammon; a hi a fydd yn garnedd anghyfanheddol, a’i merched hi a losgir â thân: yna Israel a feddianna y rhai a’i meddianasant ef, medd yr ARGLWYDD.

3Uda, Hesbon, am anrheithio Ai: gwaeddwch, chwi ferched Rabba, ymwregyswch mewn sachliain; alaethwch, a gwibiwch gan y gwrychoedd: oblegid eu brenin a â i gaethiwed, ei offeiriaid a’i benaethiaid ynghyd.

4Paham yr ymffrosti di yn y dyffrynnoedd? llifodd dy ddyffryn di ymaith, O ferch wrthnysig, yr hon a ymddiriedodd yn ei thrysorau, gan ddywedyd, Pwy a ddaw ataf fi?

5Wele, myfi a ddygaf arswyd arnat ti, medd ARGLWYDD DDUW y lluoedd, rhag pawb o’th amgylch: a chwi a yrrir allan bob un o’i flaen, ac ni bydd a gasglo y crwydrad.

6Ac wedi hynny myfi a ddychwelaf gaethiwed meibion Ammon, medd yr ARGLWYDD.

7Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd am Edom; Onid oes doethineb mwy yn Teman? a fethodd cyngor gan y rhai deallgar? a fethodd eu doethineb hwynt?

8Ffowch, trowch eich cefnau, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Dedan: canys mi a ddygaf ddinistr Esau arno, amser ei ofwy.

9Pe delai cynaeafwyr gwin atat ti, oni weddillent hwy loffion grawn? pe lladron liw nos, hwy a anrheithient nes cael digon.

10Ond myfi a ddinoethais Esau, ac a ddatguddiais ei lochesau ef, fel na allo lechu: ei had ef a ddifethwyd, a’i frodyr a’i gymdogion, ac nid yw efe.

11Gad dy amddifaid, myfi a’u cadwaf hwynt yn fyw; ac ymddirieded dy weddwon ynof fi.

12Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele, y rhai nid oedd eu barn i yfed o’r ffiol, gan yfed a yfasant, ac a ddihengi di yn ddigerydd? na ddihengi; eithr tithau a yfi yn sicr.

13Canys i mi fy hun y tyngais, medd yr ARGLWYDD, mai yn anghyfannedd, yn warth, yn anialwch, ac yn felltith, y bydd Bosra; a’i holl ddinasoedd yn ddiffeithwch tragwyddol.

14Myfi a glywais chwedl oddi wrth yr ARGLWYDD, bod cennad wedi ei anfon at y cenhedloedd, yn dywedyd, Ymgesglwch, a deuwch yn ei herbyn hi, a chyfodwch i’r rhyfel.

15Oherwydd wele, myfi a’th wnaf di yn fychan ymysg y cenhedloedd, ac yn wael ymhlith dynion.

16Dy erwindeb a’th dwyllodd, a balchder dy galon, ti yr hon ydwyt yn aros yng nghromlechydd y graig, ac yn meddiannu uchelder y bryn: er i ti osod dy nyth cyn uched â’r eryr, myfi a wnaf i ti ddisgyn oddi yno, medd yr ARGLWYDD.

17Edom hefyd a fydd yn anghyfannedd: pawb a’r a elo heibio iddi a synna, ac a chwibana am ei holl ddialeddau hi.

18Fel yn ninistr Sodom a Gomorra, a’i chymdogesau, medd yr ARGLWYDD; ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.

19Wele, fel llew y daw i fyny oddi wrth ymchwydd yr Iorddonen, i drigfa y cadarn; eithr mi a wnaf iddo redeg yn ddisymwth oddi wrthi hi: a phwy sydd ŵr dewisol, a osodwyf fi arni hi? canys pwy sydd fel myfi? a phwy a esyd i mi amser? a phwy yw y bugail hwnnw a saif o’m blaen i?

20Am hynny gwrandewch gyngor yr ARGLWYDD, yr hwn a gymerodd efe yn erbyn Edom, a’i fwriadau a fwriadodd efe yn erbyn preswylwyr Teman: yn ddiau y rhai lleiaf o’r praidd a’u llusgant hwy; yn ddiau efe a wna yn anghyfannedd eu trigleoedd gyda hwynt.

21Gan lef eu cwymp hwynt y crŷn y ddaear: llais eu gwaedd hwynt a glybuwyd yn y môr coch.

22Wele, fel eryr y daw i fyny, ac efe a eheda ac a leda ei adenydd dros Bosra: yna y bydd calon cedyrn Edom y dydd hwnnw fel calon gwraig wrth esgor.

23Am Damascus. Hamath ac Arpad a waradwyddwyd; oherwydd hwy a glywsant chwedl drwg; llesmeiriasant; y mae gofal ar y môr heb fedru gorffwys.

24Damascus a lesgaodd, ac a ymdrŷ i ffoi, ond dychryn a’i goddiweddodd hi; gwasgfa a phoenau a’i daliodd hi fel gwraig yn esgor.

25Pa fodd na adewir dinas moliant, caer fy llawenydd?

26Am hynny ei gwŷr ieuainc a syrthiant yn ei heolydd, a’r holl ryfelwyr a ddifethir y dydd hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd.

27A mi a gyneuaf dân ym mur Damascus, ac efe a ddifa lysoedd Benhadad.

28Am Cedar, ac am deyrnasoedd Hasor, y rhai a ddinistria Nebuchodonosor brenin Babilon, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Cyfodwch, ewch i fyny yn erbyn Cedar, ac anrheithiwch feibion y dwyrain.

29Eu lluestai a’u diadellau a gymerant ymaith; eu llenni, a’u holl lestri, a’u camelod, a gymerant iddynt eu hunain; a hwy a floeddiant arnynt, Y mae ofn o amgylch.

30Ffowch, ciliwch ymhell, ewch yn isel i drigo, preswylwyr Hasor, medd yr ARGLWYDD: oherwydd Nebuchodonosor brenin Babilon a gymerodd gyngor yn eich erbyn chwi, ac a fwriadodd fwriad yn eich erbyn chwi.

31Cyfodwch, ac ewch i fyny at y genedl oludog, yr hon sydd yn trigo yn ddiofal, medd yr ARGLWYDD, heb ddorau na barrau iddi; wrthynt eu hunain y maent yn trigo.

32A’u camelod a fydd yn anrhaith, a’u minteioedd anifeiliaid yn ysbail, a mi a wasgaraf tua phob gwynt y rhai sydd yn y conglau eithaf; a myfi a ddygaf o bob ystlys iddi eu dinistr hwynt, medd yr ARGLWYDD.

33Hasor hefyd fydd yn drigfa dreigiau, ac yn anghyfannedd byth: ni phreswylia neb yno, ac nid erys mab dyn ynddi.

34Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn Elam, yn nechrau teyrnasiad Sedeceia brenin Jwda, gan ddywedyd,

35Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd: Wele fi yn torri bwa Elam, eu cadernid pennaf hwynt.

36A mi a ddygaf ar Elam bedwar gwynt o bedwar eithaf y nefoedd, a mi a’u gwasgaraf hwynt tua’r holl wyntoedd hyn; ac ni bydd cenedl at yr hon ni ddelo rhai o grwydraid Elam.

37Canys mi a yrraf ar Elam ofn eu gelynion, a’r rhai a geisiant eu heinioes; a myfi a ddygaf arnynt aflwydd, sef angerdd fy nigofaint, medd yr ARGLWYDD; a mi a anfonaf y cleddyf ar eu hôl, nes i mi eu difetha hwynt.

38A mi a osodaf fy nheyrngadair yn Elam, a mi a ddifethaf oddi yno y brenin a’r tywysogion, medd yr ARGLWYDD.

39Ond yn y dyddiau diwethaf, myfi a ddychwelaf gaethiwed Elam, medd yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help