1Yr amser hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y byddaf DDUW i holl deuluoedd Israel; a hwythau a fyddant bobl i mi.
2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Y bobl y rhai a weddillwyd gan y cleddyf, a gafodd ffafr yn yr anialwch, pan euthum i beri llonyddwch iddo ef, sef i Israel.
3Er ys talm yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnais di â thrugaredd.
4Myfi a’th adeiladaf eto, a thi a adeiledir, O forwyn Israel: ymdrwsi eto â’th dympanau, ac a ei allan gyda’r chwaraeyddion dawns.
5Ti a blenni eto winllannoedd ym mynyddoedd Samaria: y planwyr a blannant, ac a’u mwynhânt yn gyffredin.
6Canys daw y dydd y llefa y gwylwyr ym mynydd Effraim, Codwch, ac awn i fyny i Seion at yr ARGLWYDD ein DUW.
7Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch ymhlith rhai pennaf y cenhedloedd: cyhoeddwch, molwch, a dywedwch, O ARGLWYDD, cadw dy bobl, gweddill Israel.
8Wele, mi a’u harweiniaf hwynt o dir y gogledd, ac a’u casglaf hwynt o ystlysau y ddaear, y dall a’r cloff, y feichiog a’r hon sydd yn esgor, ar unwaith gyda hwynt: cynulleidfa fawr a ddychwelant yma.
9Mewn wylofain y deuant, ac mewn tosturiaethau y dygaf hwynt: gwnaf iddynt rodio wrth ffrydiau dyfroedd mewn ffordd union yr hon ni thripiant ynddi: oblegid myfi sydd dad i Israel, ac Effraim yw fy nghyntaf-anedig.
10Gwrandewch air yr ARGLWYDD, O genhedloedd, a mynegwch yn yr ynysoedd o bell, a dywedwch, Yr hwn a wasgarodd Israel, a’i casgl ef, ac a’i ceidw fel bugail ei braidd.
11Oherwydd yr ARGLWYDD a waredodd Jacob, ac a’i hachubodd ef o law yr hwn oedd drech nag ef.
12Am hynny y deuant, ac y canant yn uchelder Seion; a hwy a redant at ddaioni yr ARGLWYDD, am wenith, ac am win, ac am olew, ac am epil y defaid a’r gwartheg: a’u henaid fydd fel gardd ddyfradwy; ac ni ofidiant mwyach.
13Yna y llawenycha y forwyn yn y dawns, a’r gwŷr ieuainc a’r hynafgwyr ynghyd: canys myfi a droaf eu galar yn llawenydd, ac a’u diddanaf hwynt, ac a’u llawenychaf o’u tristwch.
14A mi a ddiwallaf enaid yr offeiriaid â braster, a’m pobl a ddigonir â’m daioni, medd yr ARGLWYDD.
15Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Llef a glywyd yn Rama, cwynfan ac wylofain chwerw; Rahel yn wylo am ei meibion, ni fynnai ei chysuro am ei meibion, oherwydd nad oeddynt.
16Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Atal dy lef rhag wylo, a’th lygaid rhag dagrau: canys y mae tâl i’th lafur, medd yr ARGLWYDD; a hwy a ddychwelant o dir y gelyn.
17Ac y mae gobaith yn dy ddiwedd, medd yr ARGLWYDD, y dychwel dy blant i’w bro eu hun.
18Gan glywed y clywais Effraim yn cwynfan fel hyn; Cosbaist fi, a mi a gosbwyd, fel llo heb ei gynefino â’r iau: dychwel di fi, a mi a ddychwelir, oblegid ti yw yr ARGLWYDD fy NUW.
19Yn ddiau wedi i mi ddychwelyd, mi a edifarheais; ac wedi i mi wybod, mi a drewais fy morddwyd: myfi a gywilyddiwyd, ac a waradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn gwarth fy ieuenctid.
20Ai mab hoff gennyf yw Effraim? ai plentyn hyfrydwch yw? canys er pan leferais i yn ei erbyn ef, gan gofio y cofiaf ef eto: am hynny fy mherfedd a ruant amdano ef; gan drugarhau y trugarhaf wrtho ef, medd yr ARGLWYDD.
21Cyfod i ti arwyddion ffordd, gosod i ti garneddau uchel: gosod dy galon tua’r briffordd, y ffordd yr aethost: dychwel, forwyn Israel, dychwel i’th ddinasoedd hyn.
22Pa hyd yr ymgrwydri, O ferch wrthnysig? oblegid yr ARGLWYDD a greodd beth newydd ar y ddaear; Benyw a amgylcha ŵr.
23Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel; Dywedant eto y gair hwn yng ngwlad Jwda, ac yn ei dinasoedd, pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt; Yr ARGLWYDD a’th fendithio, trigfa cyfiawnder, mynydd sancteiddrwydd.
24Yna arddwyr a bugeiliaid a breswyliant ynddi hi Jwda, ac yn ei holl ddinasoedd ynghyd.
25Oherwydd yr enaid diffygiol a ddigonais, a phob enaid trist a lenwais.
26Ar hyn y deffroais, ac yr edrychais, a melys oedd fy hun gennyf.
27Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr heuaf dŷ Israel a thŷ Jwda â had dyn ac â had anifail.
28Ac megis y gwyliais arnynt i ddiwreiddio, ac i dynnu i lawr, ac i ddinistrio, ac i ddifetha, ac i ddrygu; felly y gwyliaf arnynt i adeiladu ac i blannu, medd yr ARGLWYDD.
29Yn y dyddiau hynny ni ddywedant mwyach, Y tadau a fwytasant rawnwin surion, ac ar ddannedd y plant y mae dincod.
30Ond pob un a fydd farw yn ei anwiredd ei hun: pob un a’r a fwytao rawnwin surion, ar ei ddannedd ef y bydd dincod.
31Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, y gwnaf gyfamod newydd â thŷ Israel, ac â thŷ Jwda:
32Nid fel y cyfamod a wneuthum â’u tadau hwynt ar y dydd yr ymeflais yn eu llaw hwynt i’w dwyn allan o dir yr Aifft; yr hwn fy nghyfamod a ddarfu iddynt hwy ei ddiddymu, er fy mod i yn briod iddynt, medd yr ARGLWYDD.
33Ond dyma y cyfamod a wnaf fi â thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr ARGLWYDD; Myfi a roddaf fy nghyfraith o’u mewn hwynt, ac a’i hysgrifennaf hi yn eu calonnau hwynt; a mi a fyddaf iddynt hwy yn DDUW, a hwythau a fyddant yn bobl i mi.
34Ac ni ddysgant mwyach bob un ei gymydog, a phob un ei frawd, gan ddywedyd, Adnabyddwch yr ARGLWYDD: oherwydd hwynt-hwy oll o’r lleiaf ohonynt hyd y mwyaf ohonynt a’m hadnabyddant, medd yr ARGLWYDD; oblegid mi a faddeuaf eu hanwiredd, a’u pechod ni chofiaf mwyach.
35Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn rhoddi yr haul yn oleuni dydd, defodau y lloer a’r sêr yn oleuni nos, yr hwn sydd yn rhwygo y môr pan ruo ei donnau; ARGLWYDD y lluoedd yw ei enw:
36Os cilia y defodau hynny o’m gŵydd i, medd yr ARGLWYDD, yna had Israel a baid â bod yn genedl ger fy mron i yn dragywydd.
37Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Os gellir mesur y nefoedd oddi uchod, a chwilio sylfeini y ddaear hyd isod, minnau hefyd a wrthodaf holl had Israel, am yr hyn oll a wnaethant hwy, medd yr ARGLWYDD.
38Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr ARGLWYDD, yr adeiledir y ddinas i’r ARGLWYDD, o dŵr Hananeel hyd borth y gongl.
39A’r llinyn mesur a â allan eto ar ei gyfer ef, ar fryn Gareb, ac a amgylcha hyd Goath.
40A holl ddyffryn y celaneddau, a’r lludw, a’r holl feysydd, hyd afon Cidron, hyd gongl porth y meirch tua’r dwyrain, a fydd sanctaidd i’r ARGLWYDD; nis diwreiddir, ac nis dinistrir mwyach byth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.