Mathew 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A phan ddaethant yn gyfagos i Jerwsalem, a’u dyfod hwy i Bethffage, i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddisgybl,

2Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i’r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch asen yn rhwym, ac ebol gyda hi: gollyngwch hwynt, a dygwch ataf fi.

3Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch, Y mae’n rhaid i’r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a’u denfyn hwynt.

4A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwyd, yn dywedyd,

5Dywedwch i ferch Seion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti, yn addfwyn, ac yn eistedd ar asen, ac ebol llwdn asen arferol â’r iau.

6Y disgyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchmynasai’r Iesu iddynt.

7A hwy a ddygasant yr asen a’r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a’i gosodasant ef i eistedd ar hynny.

8A thyrfa ddirfawr a daenasant eu dillad ar y ffordd; eraill a dorasant gangau o’r gwŷdd, ac a’u taenasant ar hyd y ffordd.

9A’r torfeydd, y rhai oedd yn myned o’r blaen, a’r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna i fab Dafydd: Bendigedig yw’r hwn sydd yn dyfod yn enw’r Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion.

10Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerwsalem, y ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn?

11A’r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Iesu y proffwyd o Nasareth yng Ngalilea.

12A’r Iesu a aeth i mewn i deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a’r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau’r newidwyr arian, a chadeiriau’r rhai oedd yn gwerthu colomennod:

13Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ysgrifennwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i; eithr chwi a’i gwnaethoch yn ogof lladron.

14A daeth y deillion a’r cloffion ato yn y deml; ac efe a’u hiachaodd hwynt.

15A phan welodd yr archoffeiriaid a’r ysgrifenyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a’r plant yn llefain yn y deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fab Dafydd; hwy a lidiasant,

16Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae’r rhai hyn yn ei ddywedyd? A’r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllenasoch chwi erioed, O enau plant bychain a rhai yn sugno y perffeithiaist foliant?

17Ac efe a’u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o’r ddinas i Fethania, ac a letyodd yno.

18A’r bore, fel yr oedd efe yn dychwelyd i’r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.

19A phan welodd efe ffigysbren ar y ffordd, efe a ddaeth ato, ac ni chafodd ddim arno, ond dail yn unig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigysbren.

20A phan welodd y disgyblion, hwy a ryfeddasant, gan ddywedyd, Mor ddisymwth y crinodd y ffigysbren!

21A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Os bydd gennych ffydd, ac heb amau, ni wnewch yn unig hyn a wneuthum i i’r ffigysbren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fyny, a bwrier di i’r môr; hynny a fydd.

22A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a’i derbyniwch.

23Ac wedi ei ddyfod ef i’r deml, yr archoffeiriaid a henuriaid y bobl a ddaethant ato, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?

24A’r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Minnau a ofynnaf i chwithau un gair, yr hwn os mynegwch i mi, minnau a fynegaf i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

25Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o’r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O’r nef; efe a ddywed wrthym, Paham gan hynny nas credasoch ef?

26Ond os dywedwn, O ddynion; y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymryd Ioan megis proffwyd.

27A hwy a atebasant i’r Iesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntau a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

28Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan.

29Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth.

30A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe.

31Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi.

32Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a’r puteiniaid a’i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.

33Clywch ddameg arall. Yr oedd rhyw ddyn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi winwryf, ac a adeiladodd dŵr, ac a’i gosododd hi allan i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref.

34A phan nesaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafurwyr, i dderbyn ei ffrwythau hi.

35A’r llafurwyr a ddaliasant ei weision ef, ac un a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.

36Trachefn, efe a anfonodd weision eraill, fwy na’r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr un modd.

37Ac yn ddiwethaf oll, efe a anfonodd atynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mab i.

38A phan welodd y llafurwyr y mab, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, Hwn yw’r etifedd; deuwch, lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.

39Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a’i bwriasant ef allan o’r winllan, ac a’i lladdasant.

40Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i’r llafurwyr hynny?

41Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafurwyr eraill, y rhai a dalant iddo’r ffrwythau yn eu hamserau.

42Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch chwi erioed yn yr ysgrythurau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni?

43Am hynny meddaf i chwi, Y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a’i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.

44A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.

45A phan glybu’r archoffeiriaid a’r Phariseaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai amdanynt hwy y dywedai efe.

46Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasant y torfeydd; am eu bod yn ei gymryd ef fel proffwyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help