Y Salmau 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 21I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1 ARGLWYDD, yn dy nerth y llawenycha y Brenin; ac yn dy iachawdwriaeth di mor ddirfawr yr ymhyfryda!

2Deisyfiad ei galon a roddaist iddo; a dymuniad ei wefusau nis gomeddaist. Sela.

3Canys achubaist ei flaen ef â bendithion daioni: gosodaist ar ei ben ef goron o aur coeth.

4Gofynnodd oes gennyt, a rhoddaist iddo: ie, hir oes, byth ac yn dragywydd.

5Mawr yw ei ogoniant yn dy iachawdwriaeth: gosodaist arno ogoniant a phrydferthwch.

6Canys gwnaethost ef yn fendithion yn dragwyddol; llawenychaist ef â llawenydd â’th wynepryd.

7Oherwydd bod y Brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD, a thrwy drugaredd y Goruchaf nid ysgogir ef.

8Dy law a gaiff afael ar dy holl elynion: dy ddeheulaw a gaiff afael ar dy gaseion.

9Ti a’u gwnei hwynt fel ffwrn danllyd yn amser dy lid: yr ARGLWYDD yn ei ddicllonedd a’u llwnc hwynt, a’r tân a’u hysa hwynt.

10Eu ffrwyth hwynt a ddinistri di oddi ar y ddaear, a’u had o blith meibion dynion.

11Canys bwriadasant ddrwg i’th erbyn: meddyliasant amcan, heb allu ohonynt ei gwblhau.

12Am hynny y gwnei iddynt droi eu cefnau: ar dy linynnau y paratöi di saethau yn erbyn eu hwynebau.

13Ymddyrcha, ARGLWYDD, yn dy nerth; canwn, a chanmolwn dy gadernid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help