1O’r dyfnder y llefais arnat, O ARGLWYDD.
2 ARGLWYDD, clyw fy llefain; ystyried dy glustiau wrth lef fy ngweddïau.
3Os creffi ar anwireddau, ARGLWYDD, O ARGLWYDD, pwy a saif?
4Ond y mae gyda thi faddeuant, fel y’th ofner.
5Disgwyliaf am yr ARGLWYDD, disgwyl fy enaid, ac yn ei air ef y gobeithiaf.
6Fy enaid sydd yn disgwyl am yr ARGLWYDD yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore; yn fwy nag y mae y gwylwyr am y bore.
7Disgwylied Israel am yr ARGLWYDD; oherwydd y mae trugaredd gyda’r ARGLWYDD, ac aml ymwared gydag ef.
8Ac efe a wared Israel oddi wrth ei holl anwireddau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
