1 Samuel 20 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Dafydd a ffodd o Naioth yn Rama: ac a ddaeth, ac a ddywedodd gerbron Jonathan, Beth a wneuthum i? beth yw fy anwiredd? a pheth yw fy mhechod o flaen dy dad di, gan ei fod efe yn ceisio fy einioes i?

2Ac efe a ddywedodd wrtho, Na ato DUW; ni byddi farw: wele, ni wna fy nhad ddim, na mawr na bychan, heb ei fynegi i mi: paham gan hynny y celai fy nhad y peth hyn oddi wrthyf fi? Nid felly y mae.

3A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a ŵyr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristáu ef: cyn wired â bod yr ARGLWYDD yn fyw, a’th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau.

4Yna y dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dywed beth yw dy ewyllys, a mi a’i cwblhaf i ti.

5A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Wele, y dydd cyntaf o’r mis yw yfory, a minnau gan eistedd a ddylwn eistedd gyda’r brenin i fwyta: ond gollwng fi, fel yr ymguddiwyf yn y maes hyd brynhawn y trydydd dydd.

6Os dy dad a ymofyn yn fanwl amdanaf; yna dywed, Dafydd gan ofyn a ofynnodd gennad gennyf fi, i redeg i Bethlehem, ei ddinas ei hun: canys aberth blynyddol sydd yno i’r holl genedl.

7Os fel hyn y dywed efe, Da; heddwch fydd i’th was: ond os gan ddigio y digia efe, gwybydd fod ei fryd ef ar ddrwg.

8Gwna gan hynny drugaredd â’th was; canys i gyfamod yr ARGLWYDD y dygaist dy was gyda thi: ac od oes anwiredd ynof fi, lladd di fi; canys i ba beth y dygi fi at dy dad?

9A dywedodd Jonathan, Na ato DUW hynny i ti: canys, os gan wybod y cawn wybod fod malais wedi ei baratoi gan fy nhad i ddyfod i’th erbyn, onis mynegwn i ti?

10A Dafydd a ddywedodd wrth Jonathan, Pwy a fynega i mi? neu beth os dy dad a’th etyb yn arw?

11A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Tyred, ac awn i’r maes. A hwy a aethant ill dau i’r maes.

12A Jonathan a ddywedodd wrth Dafydd, O ARGLWYDD DDUW Israel, wedi i mi chwilio meddwl fy nhad, ynghylch y pryd hwn yfory, neu drennydd; ac wele, os daioni fydd tuag at Dafydd, ac oni anfonaf yna atat ti, a’i fynegi i ti;

13Fel hyn y gwnêl yr ARGLWYDD i Jonathan, ac ychwaneg: os da fydd gan fy nhad wneuthur drwg i ti; yna y mynegaf i ti, ac a’th ollyngaf ymaith, fel yr elych mewn heddwch: a bydded yr ARGLWYDD gyda thi, megis y bu gyda’m tad i.

14Ac nid yn unig tra fyddwyf fi byw, y gwnei drugaredd yr ARGLWYDD â mi, fel na byddwyf fi marw:

15Ond hefyd na thor ymaith dy drugaredd oddi wrth fy nhŷ i byth: na chwaith pan ddistrywio yr ARGLWYDD elynion Dafydd, bob un oddi ar wyneb y ddaear.

16Felly y cyfamododd Jonathan â thŷ Dafydd; ac efe a ddywedodd, Gofynned yr ARGLWYDD hyn ar law gelynion Dafydd.

17A Jonathan a wnaeth i Dafydd yntau dyngu, oherwydd efe a’i carai ef: canys fel y carai ei enaid ei hun, y carai efe ef.

18A Jonathan a ddywedodd wrtho ef, Yfory yw y dydd cyntaf o’r mis: ac ymofynnir amdanat; oherwydd fe fydd dy eisteddle yn wag.

19Ac wedi i ti aros dridiau, yna tyred i waered yn fuan; a thyred i’r lle yr ymguddiaist ynddo pan oedd y peth ar waith, ac aros wrth faen Esel.

20A mi a saethaf dair o saethau tua’i ystlys ef, fel pes gollyngwn hwynt at nod.

21Wele hefyd, mi a anfonaf lanc, gan ddywedyd, Dos, cais y saethau. Os gan ddywedyd y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu yma i ti, dwg hwynt; yna tyred di: canys heddwch sydd i ti, ac nid oes dim niwed, fel mai byw yw yr ARGLWYDD.

22Ond os fel hyn y dywedaf wrth y llanc, Wele y saethau o’r tu hwnt i ti; dos ymaith; canys yr ARGLWYDD a’th anfonodd ymaith.

23Ac am y peth a leferais i, mi a thi, wele yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi yn dragywydd.

24Felly Dafydd a ymguddiodd yn y maes. A phan ddaeth y dydd cyntaf o’r mis, y brenin a eisteddodd i fwyta bwyd.

25A’r brenin a eisteddodd ar ei eisteddfa, megis ar amseroedd eraill; sef ar yr eisteddfa wrth y pared; a Jonathan a gyfododd, ac Abner a eisteddodd wrth ystlys Saul; a lle Dafydd oedd wag.

26Ac nid ynganodd Saul ddim y diwrnod hwnnw: canys meddyliodd mai damwain oedd hyn; nad oedd efe lân, a’i fod yn aflan.

27A bu drannoeth, yr ail ddydd o’r mis, fod lle Dafydd yn wag. A dywedodd Saul wrth Jonathan ei fab, Paham na ddaeth mab Jesse at y bwyd, na doe na heddiw?

28A Jonathan a atebodd Saul, Dafydd gan ofyn a ofynnodd i mi am gael myned hyd Bethlehem:

29Ac efe a ddywedodd, Gollwng fi, atolwg; oherwydd i’n tylwyth ni y mae aberth yn y ddinas, a’m brawd yntau a archodd i mi fod yno: ac yn awr, o chefais ffafr yn dy olwg, gad i mi fyned, atolwg, fel y gwelwyf fy mrodyr. Oherwydd hyn, ni ddaeth efe i fwrdd y brenin.

30Yna y llidiodd dicter Saul yn erbyn Jonathan; ac efe a ddywedodd wrtho, Ti fab y gyndyn wrthnysig, oni wn i ti ddewis mab Jesse yn waradwydd i ti, ac yn gywilydd i noethder dy fam?

31Canys tra fyddo mab Jesse yn fyw ar y ddaear, ni’th sicrheir di na’th deyrnas: yn awr gan hynny anfon, a chyrch ef ataf; canys marw a gaiff efe.

32A Jonathan a atebodd Saul ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Paham y bydd efe marw? beth a wnaeth efe?

33A Saul a ergydiodd waywffon ato ef, i’w daro ef. Wrth hyn y gwybu Jonathan fod ei dad ef wedi rhoi ei fryd ar ladd Dafydd.

34Felly Jonathan a gyfododd oddi wrth y bwrdd mewn llid dicllon, ac ni fwytaodd fwyd yr ail ddydd o’r mis: canys drwg oedd ganddo dros Dafydd, oherwydd i’w dad ei waradwyddo ef.

35A’r bore yr aeth Jonathan i’r maes erbyn yr amser a osodasai efe i Dafydd, a bachgen bychan gydag ef.

36Ac efe a ddywedodd wrth ei fachgen, Rhed, cais yn awr y saethau yr ydwyf fi yn eu saethu. A’r bachgen a redodd: yntau a saethodd saeth y tu hwnt iddo ef.

37A phan ddaeth y bachgen hyd y fan yr oedd y saeth a saethasai Jonathan, y llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, ac a ddywedodd, Onid yw y saeth o’r tu hwnt i ti?

38A llefodd Jonathan ar ôl y bachgen, Cyflyma, brysia, na saf. A bachgen Jonathan a gasglodd y saethau, ac a ddaeth at ei feistr.

39A’r bachgen ni wyddai ddim: yn unig Jonathan a Dafydd a wyddent y peth.

40A Jonathan a roddodd ei offer at ei fachgen, ac a ddywedodd wrtho, Dos, dwg y rhai hyn i’r ddinas.

41A’r bachgen a aeth ymaith; a Dafydd a gyfododd oddi wrth y deau, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd dair gwaith. A hwy a gusanasant bob un ei gilydd, ac a wylasant y naill wrth y llall; a Dafydd a ragorodd.

42A dywedodd Jonathan wrth Dafydd, Dos mewn heddwch: yr hyn a dyngasom ni ein dau yn enw yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD fyddo rhyngof fi a thi, a rhwng fy had i a’th had dithau, safed hynny yn dragywydd. Ac efe a gyfododd ac a aeth ymaith: a Jonathan a aeth i’r ddinas.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help