Diarhebion 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson.

2Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr.

3Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr ARGLWYDD.

4Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg.

5Y neb a watwaro y tlawd, sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog.

6Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.

7Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog.

8Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna.

9Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion.

10Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith.

11Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef.

12Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â’r ffôl yn ei ffolineb.

13Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â’i dŷ ef.

14Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni.

15Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr ARGLWYDD ydynt ill dau.

16Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo?

17Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi.

18Dyn heb bwyll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill.

19Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed.

20Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg.

21Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd.

22Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn.

23Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn.

24Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd.

25Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad, a chwerwder i’w fam.

26Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn.

27Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd.

28Y ffôl, tra tawo, a gyfrifir yn ddoeth; a’r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help