1Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius.
2Ac o bydd y mab drygionus i’w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi.
3Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a’i guro ef â llawer gwialennod uwchlaw hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.
4Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu.
5Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr ati, a chymered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr.
6A bydded i’r cyntaf-anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel.
7Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i’r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i’w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi.
8Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef, ac ymddiddanant ag ef: o saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi fodlon i’w chymryd hi;
9Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid, a datoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef; ac atebed, a dyweded, Felly y gwneir i’r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd.
10A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid.
11Os ymryson dynion ynghyd, sef gŵr â’i frawd, a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef;
12Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.
13Na fydded gennyt yn dy god amryw bwys, mawr a bychan.
14Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan.
15Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei rhoddi i ti.
16Canys ffiaidd gan yr ARGLWYDD dy DDUW bob un a wnelo hyn, sef pawb a’r a wnêl anghyfiawnder.
17Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o’r Aifft:
18Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf ohonot, yr holl weiniaid o’th ôl di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe DDUW.
19Am hynny bydded, pan roddo yr ARGLWYDD dy DDUW i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
