1Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, yn erbyn y Cenhedloedd,
2Yn erbyn yr Aifft, yn erbyn llu Pharo-necho brenin yr Aifft, yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin Babilon ei daro, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda.
3Teclwch y darian a’r astalch, a nesewch i ryfel.
4Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt, farchogion; sefwch yn eich helmau, gloywch y gwaywffyn, gwisgwch y llurigau.
5Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig, wedi cilio yn eu hôl, a’u cedyrn wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr ARGLWYDD.
6Na chaed y buan ffoi, na’r cadarn ddianc; tua’r gogledd, gerllaw afon Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant.
7Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a’i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd?
8Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi, a’i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonydd: a hi a ddywed, Mi a af i fyny, ac a orchuddiaf y ddaear; myfi a ddifethaf y ddinas, a’r rhai sydd yn trigo ynddi.
9O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a’r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a’r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa.
10Canys dydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion: a’r cleddyf a ysa, ac a ddigonir, ac a feddwir â’u gwaed hwynt: canys aberth sydd i ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates.
11O forwyn, merch yr Aifft, dos i fyny i Gilead, a chymer driagl: yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau; canys ni bydd iachâd i ti.
12Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd, a’th waedd a lanwodd y wlad; canys cadarn wrth gadarn a dramgwyddodd, a hwy ill dau a gydsyrthiasant.
13Y gair yr hwn a lefarodd yr ARGLWYDD wrth Jeremeia y proffwyd, y deuai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac y trawai wlad yr Aifft.
14Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod; oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd.
15Paham y syrthiodd dy rai cryfion? ni safasant, am i’r ARGLWYDD eu gwthio hwynt.
16Efe a wnaeth i lawer syrthio, ie, pawb a syrthiodd ar ei gilydd; a hwy a ddywedasant, Cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr.
17Yno y gwaeddasant, Pharo brenin yr Aifft nid yw ond trwst; aeth dros yr amser nodedig.
18Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw ARGLWYDD y lluoedd, cyn sicred â bod Tabor yn y mynyddoedd, a Charmel yn y môr, efe a ddaw.
19O ferch drigiannol yr Aifft, gwna i ti offer caethglud; canys Noff a fydd anghyfannedd, ac a ddifethir heb breswylydd.
20Yr Aifft sydd anner brydferth, y mae dinistr yn dyfod: o’r gogledd y mae yn dyfod.
21Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o’i mewn hi fel lloi pasgedig: canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau, ac a gydffoesant; ac ni safasant, oherwydd dydd eu gofid, ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt.
22Ei llais hi a â allan fel sarff: canys â llu yr ânt hwy, ac â bwyeill y deuant yn ei herbyn hi, fel cymynwyr coed.
23Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr ARGLWYDD, er na ellir ei chwilio: canys amlach fyddant na’r ceiliogod rhedyn, ac heb rifedi arnynt.
24Merch yr Aifft a gywilyddir; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd.
25ARGLWYDD y lluoedd, DUW Israel, sydd yn dywedyd, Wele, myfi a ymwelaf â lliaws No, ac â Pharo, ac â’r Aifft, ac â’i duwiau hi, ac â’i brenhinoedd, sef â Pharo, ac â’r rhai sydd yn ymddiried ynddo;
26A mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt, medd yr ARGLWYDD.
27Ond nac ofna di, O fy ngwas Jacob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a’th gadwaf di o bell, a’th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd esmwyth arno, ac heb neb a’i dychryno.
28O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr ARGLWYDD; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.