Barnwyr 17 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yr oedd gŵr o fynydd Effraim, a’i enw Mica.

2Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a’r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a’i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr ARGLWYDD.

3A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r ARGLWYDD o’m llaw, i’m mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti.

4Eto efe a dalodd yr arian i’w fam. A’i fam a gymerth ddau can sicl o arian, ac a’u rhoddodd i’r toddydd; ac efe a’u gwnaeth yn ddelw gerfiedig, a thoddedig: a hwy a fuant yn nhŷ Mica.

5A chan y gŵr hwn Mica yr oedd tŷ duwiau; ac efe a wnaeth effod, a theraffim, ac a gysegrodd un o’i feibion i fod yn offeiriad iddo.

6Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; ond pob un a wnâi yr hyn oedd uniawn yn ei olwg ei hun.

7Ac yr oedd gŵr ieuanc o Bethlehem Jwda, o dylwyth Jwda, a Lefiad oedd efe; ac efe a ymdeithiai yno.

8A’r gŵr a aeth allan o’r ddinas o Bethlehem Jwda, i drigo pa le bynnag y caffai le: ac efe a ddaeth i fynydd Effraim i dŷ Mica, yn ei ymdaith.

9A Mica a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le.

10A Mica a ddywedodd wrtho. Trig gyda mi, a bydd i mi yn dad ac yn offeiriad; a mi a roddaf i ti ddeg sicl o arian bob blwyddyn, a phâr o ddillad, a’th luniaeth. Felly y Lefiad a aeth i mewn.

11A’r Lefiad a fu fodlon i aros gyda’r gŵr; a’r gŵr ieuanc oedd iddo fel un o’i feibion.

12A Mica a urddodd y Lefiad; a’r gŵr ieuanc fu yn offeiriad iddo, ac a fu yn nhŷ Mica.

13Yna y dywedodd Mica, Yn awr y gwn y gwna yr ARGLWYDD ddaioni i mi; gan fod Lefiad gennyf yn offeiriad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help