Y Salmau 88 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 88Salm neu Gân meibion Cora, i’r Pencerdd ar Mahalath Leannoth, Maschil Heman yr Esrahiad.

1O ARGLWYDD DDUW fy iachawdwriaeth, gwaeddais o’th flaen ddydd a nos.

2Deued fy ngweddi ger dy fron: gostwng dy glust at fy llefain.

3Canys fy enaid a lanwyd o flinderau; a’m heinioes a nesâ i’r beddrod.

4Cyfrifwyd fi gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: ydwyf fel gŵr heb nerth.

5Yn rhydd ymysg y meirw, fel rhai wedi eu lladd, yn gorwedd mewn bedd, y rhai ni chofi mwy; a hwy a dorrwyd oddi wrth dy law.

6Gosodaist fi yn y pwll isaf, mewn tywyllwch, yn y dyfnderau.

7Y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf: ac â’th holl donnau y’m cystuddiaist. Sela.

8Pellheaist fy nghydnabod oddi wrthyf; gwnaethost fi yn ffieidd-dra iddynt: gwarchaewyd fi, fel nad awn allan.

9Fy llygad a ofidiodd gan fy nghystudd: llefais arnat ARGLWYDD, beunydd; estynnais fy nwylo atat.

10Ai i’r meirw y gwnei ryfeddod? a gyfyd y meirw a’th foliannu di? Sela.

11A draethir dy drugaredd mewn bedd? a’th wirionedd yn nistryw?

12A adwaenir dy ryfeddod yn y tywyllwch? a’th gyfiawnder yn nhir angof?

13Ond myfi a lefais arnat, ARGLWYDD; yn fore yr achub fy ngweddi dy flaen.

14Paham, ARGLWYDD, y gwrthodi fy enaid? y cuddi dy wyneb oddi wrthyf?

15Truan ydwyf fi, ac ar drancedigaeth o’m hieuenctid: dygais dy ofn, ac yr ydwyf yn petruso.

16Dy soriant a aeth drosof; dy ddychrynedigaethau a’m torrodd ymaith.

17Fel dwfr y’m cylchynasant beunydd, ac y’m cydamgylchasant.

18Câr a chyfaill a yrraist ymhell oddi wrthyf, a’m cydnabod i dywyllwch.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help