1Am ddosbarthiad y porthorion: O’r Corhiaid yr oedd Meselemia mab Core, o feibion Asaff.
2A meibion Meselemia oedd, Sechareia y cyntaf-anedig, Jediael yr ail, Sebadeia y trydydd, Jathniel y pedwerydd,
3Elam y pumed, Jehohanan y chweched, Elioenai y seithfed.
4A meibion Obed-edom; Semaia y cyntaf-anedig, Jehosabad yr ail, Joa y trydydd, a Sachar y pedwerydd, a Nethaneel y pumed,
5Ammiel y chweched, Issachar y seithfed, Peulthai yr wythfed: canys DUW a’i bendithiodd ef.
6Ac i Semaia ei fab ef y ganwyd meibion, y rhai a arglwyddiaethasant ar dŷ eu tad: canys cedyrn o nerth oeddynt hwy.
7Meibion Semaia; Othni, a Reffael, ac Obed, Elsabad; ei frodyr ef oedd wŷr nerthol, sef Elihu, a Semacheia.
8Y rhai hyn oll o feibion Obed-edom: hwynt-hwy, a’u meibion, a’u brodyr, yn wŷr nerthol mewn cryfder, tuag at y weinidogaeth, oedd drigain a dau o Obed-edom.
9Ac i Meselemia, yn feibion ac yn frodyr, yr oedd tri ar bymtheg o wŷr nerthol.
10O Hosa hefyd, o feibion Merari, yr oedd meibion; Simri y pennaf, (er nad oedd efe gyntaf-anedig, eto ei dad a’i gosododd ef yn ben;)
11Hilceia yr ail, Tebaleia y trydydd, Sechareia y pedwerydd: holl feibion a brodyr Hosa oedd dri ar ddeg.
12Ymhlith y rhai hyn yr oedd dosbarthiadau y porthorion, sef ymhlith y penaethiaid, ac iddynt oruchwyliaeth ar gyfer eu brodyr i wasanaethu yn nhŷ yr ARGLWYDD.
13A hwy a fwriasant goelbrennau, fychan a mawr, yn ôl tŷ eu tadau, am bob porth.
14A choelbren Selemeia a syrthiodd tua’r dwyrain: a thros Sechareia ei fab, cynghorwr deallgar, y bwriasant hwy goelbrennau; a’i goelbren ef a ddaeth tua’r gogledd.
15I Obed-edom tua’r deau, ac i’w feibion, y daeth tŷ Asuppim.
16I Suppim, a Hosa, tua’r gorllewin, gyda phorth Salecheth, yn ffordd y rhiw, yr oedd y naill oruchwyliaeth ar gyfer y llall.
17Tua’r dwyrain yr oedd chwech o Lefiaid, tua’r gogledd pedwar beunydd, tua’r deau pedwar beunydd, a thuag Asuppim dau a dau.
18A Pharbar tua’r gorllewin, pedwar ar y ffordd, a dau yn Parbar.
19Dyma ddosbarthiadau y porthorion, o feibion Core, ac o feibion Merari.
20Ac o’r Lefiaid, Ahïa oedd ar drysorau tŷ DDUW, ac ar drysorau y pethau cysegredig.
21Am feibion Laadan: meibion y Gersoniad Laadan, pennau tylwyth Laadan y Gersoniad, oedd Jehieli.
22Meibion Jehieli; Setham, a Joel ei frawd, oedd ar drysorau tŷ yr ARGLWYDD.
23O’r Amramiaid, a’r Ishariaid, o’r Hebroniaid, a’r Ussieliaid:
24A Sebuel mab Gersom, mab Moses, oedd olygwr ar y trysorau.
25A’i frodyr ef o Eleasar; Rehabia ei fab ef, a Jesaia ei fab yntau, a Joram ei fab yntau, a Sichri ei fab yntau, a Selomith ei fab yntau.
26Y Selomith hwnnw a’i frodyr oedd ar holl drysorau y pethau cysegredig a gysegrasai Dafydd frenin, a’r tadau pennaf, a thywysogion y miloedd a’r cannoedd, a thywysogion y llu.
27O’r rhyfeloedd ac o’r ysbail y cysegrasant bethau i gynnal tŷ yr ARGLWYDD.
28A’r hyn oll a gysegrodd Samuel y gweledydd, a Saul mab Cis, ac Abner mab Ner, a Joab mab Serfia, a phwy bynnag a gysegrasai ddim, yr oedd efe dan law Selomith a’i frodyr.
29O’r Ishariaid, Chenaneia a’i feibion oedd yn Israel yn swyddogion, ac yn farnwyr, ar y gwaith oddi allan.
30O’r Hebroniaid, Hasabeia a’i frodyr, meibion nerthol, mil a saith gant, oedd mewn swydd yn Israel, o’r tu hwnt i’r Iorddonen tua’r gorllewin, yn holl waith yr ARGLWYDD, ac yng ngwasanaeth y brenin.
31O’r Hebroniaid, Jereia oedd ben o’r Hebroniaid, yn ôl cenedlaethau ei dadau: yn y ddeugeinfed flwyddyn o deyrnasiad Dafydd y ceisiwyd hwynt, a chafwyd yn eu mysg hwy wŷr cryfion nerthol, yn Jaser Gilead.
32A’i frodyr ef yn feibion nerthol oedd ddwy fil a saith gant o bennau-cenedl: a Dafydd y brenin a’u gosododd hwynt ar y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ym mhob gorchwyl DUW, a gorchwyl y brenin.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.