1Yna y’m cyfododd yr ysbryd, ac y’m dug hyd borth dwyrain tŷ yr ARGLWYDD, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain: ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur, a Phelatia mab Benaia, tywysogion y bobl.
2Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd, ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon:
3Y rhai a ddywedant, Nid yw yn agos; adeiladwn dai; hi yw y crochan, a ninnau y cig.
4Am hynny proffwyda i’w herbyn hwynt, proffwyda, fab dyn.
5Yna y syrthiodd ysbryd yr ARGLWYDD arnaf, ac a ddywedodd wrthyf, Dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Tŷ Israel, fel hyn y dywedasoch: canys mi a wn y pethau sydd yn dyfod i’ch meddwl chwi, bob un ohonynt.
6Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon, a llanwasoch ei heolydd hi â chelaneddau.
7Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi, yw y cig; a hithau yw y crochan: chwithau a ddygaf allan o’i chanol.
8Y cleddyf a ofnasoch, a’r cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr ARGLWYDD DDUW.
9Dygaf chwi hefyd allan o’i chanol hi, a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a gwnaf farn yn eich mysg.
10Ar y cleddyf y syrthiwch, ar derfyn Israel y barnaf chwi: fel y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
11Y ddinas hon ni bydd i chwi yn grochan, ni byddwch chwithau yn gig o’i mewn; ond ar derfyn Israel y barnaf chwi.
12A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni rodiasoch yn fy neddfau, ac ni wnaethoch fy marnedigaethau; ond yn ôl defodau y cenhedloedd o’ch amgylch y gwnaethoch.
13A phan broffwydais, bu farw Pelatia mab Benaia: yna syrthiais ar fy wyneb, a gwaeddais â llef uchel, a dywedais, O ARGLWYDD DDUW, a wnei di dranc ar weddill Israel?
14A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,
15Ha fab dyn, dy frodyr, dy frodyr, dynion dy geraint, a holl dŷ Israel yn gwbl, ydyw y rhai y dywedodd preswylwyr Jerwsalem wrthynt, Ymbellhewch oddi wrth yr ARGLWYDD; i ni y rhodded y tir hwn yn etifeddiaeth.
16Dywed am hynny, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Er gyrru ohonof hwynt ymhell ymysg y cenhedloedd, ac er gwasgaru ohonof hwynt trwy y gwledydd, eto byddaf yn gysegr bychan iddynt yn y gwledydd lle y deuant.
17Dywed gan hynny, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Casglaf chwi hefyd o fysg y bobloedd, a chynullaf chwi o’r gwledydd y’ch gwasgarwyd ynddynt, a rhoddaf i chwi dir Israel.
18A hwy a ddeuant yno, ac a symudant ei holl frynti hi a’i holl ffieidd-dra allan ohoni hi.
19A rhoddaf iddynt un galon, ac ysbryd newydd a roddaf ynoch; tynnaf hefyd y galon garreg ymaith o’u cnawd hwynt, a rhoddaf iddynt galon gig:
20Fel y rhodiont yn fy neddfau, ac y cadwont fy marnedigaethau, ac y gwnelont hwynt: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf DDUW iddynt hwy.
21Ond am y rhai y mae eu calon yn myned ar ôl meddwl eu brynti a’u ffieidd-dra, rhoddaf eu ffordd hwynt ar eu pennau eu hun, medd yr ARGLWYDD DDUW.
22Yna y ceriwbiaid a gyfodasant eu hadenydd, a’r olwynion yn eu hymyl, a gogoniant DUW Israel oedd arnynt oddi arnodd.
23A gogoniant yr ARGLWYDD a ymddyrchafodd oddi ar ganol y ddinas, ac a safodd ar y mynydd sydd o’r tu dwyrain i’r ddinas.
24Yna yr ysbryd a’m cododd i, ac a’m dug hyd Caldea at y gaethglud mewn gweledigaeth trwy ysbryd DUW. A’r weledigaeth a welswn a ddyrchafodd oddi wrthyf.
25Yna y lleferais wrth y rhai o’r gaethglud holl eiriau yr ARGLWYDD, y rhai a ddangosasai efe i mi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.