1Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda.
2Gwrandewch, nefoedd; clyw dithau, ddaear: canys yr ARGLWYDD a lefarodd, Megais a meithrinais feibion, a hwy a wrthryfelasant i’m herbyn.
3Yr ych a edwyn ei feddiannydd, a’r asyn breseb ei berchennog: ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.
4O genhedlaeth bechadurus, pobl lwythog o anwiredd, had y rhai drygionus, meibion yn llygru: gwrthodasant yr ARGLWYDD, digiasant Sanct Israel, ciliasant yn ôl!
5I ba beth y’ch trewir mwy? cildynrwydd a chwanegwch: y pen oll sydd glwyfus, a’r holl galon yn llesg.
6O wadn y troed hyd y pen nid oes dim cyfan ynddo; ond archollion, a chleisiau, a gwelïau crawnllyd: ni wasgwyd hwynt, ac ni rwymwyd, ac ni thynerwyd ag olew.
7Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir â dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.
8Merch Seion a adewir megis lluesty mewn gwinllan, megis llety mewn gardd cucumerau, megis dinas warchaeëdig.
9Oni buasai i ARGLWYDD y lluoedd adael i ni ychydig iawn o weddill, fel Sodom y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorra.
10Gwrandewch air yr ARGLWYDD, tywysogion Sodom; clywch gyfraith ein DUW ni, pobl Gomorra.
11Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.
12Pan ddeloch i ymddangos ger fy mron, pwy a geisiodd hyn ar eich llaw, sef sengi fy nghynteddau?
13Na chwanegwch ddwyn offrwm ofer: arogl-darth sydd ffiaidd gennyf; ni allaf oddef y newyddloerau na’r Sabothau, cyhoeddi cymanfa; anwiredd ydyw, sef yr uchel ŵyl gyfarfod.
14Eich lleuadau newydd a’ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid: y maent yn faich arnaf; blinais yn eu dwyn.
15A phan estynnoch eich dwylo, mi a guddiaf fy llygaid rhagoch: hefyd pan weddïoch lawer, ni wrandawaf: eich dwylo sydd lawn o waed.
16Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid; peidiwch â gwneuthur drwg;
17Dysgwch wneuthur daioni: ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i’r gorthrymedig, gwnewch farn i’r amddifad, dadleuwch dros y weddw.
18Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr ARGLWYDD: pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wynned â’r eira; pe cochent fel porffor, byddant fel gwlân.
19Os byddwch ewyllysgar ac ufudd, daioni y tir a fwytewch.
20Ond os gwrthodwch, ac os anufuddhewch, â chleddyf y’ch ysir: canys genau yr ARGLWYDD a’i llefarodd.
21Pa wedd yr aeth y ddinas ffyddlon yn butain! cyflawn fu o farn: lletyodd cyfiawnder ynddi; ond yr awr hon lleiddiaid.
22Dy arian a aeth yn sothach, dy win sydd wedi ei gymysgu â dwfr:
23Dy dywysogion sydd gyndyn, ac yn gyfranogion â lladron; pob un yn caru rhoddion, ac yn dilyn gwobrau: ni farnant yr amddifad, a chŵyn y weddw ni chaiff ddyfod atynt.
24Am hynny medd yr Arglwydd, ARGLWYDD y lluoedd, cadarn DDUW Israel, Aha, ymgysuraf ar fy ngwrthwynebwyr, ac ymddialaf ar fy ngelynion.
25A mi a ddychwelaf fy llaw arnat, ac a lân buraf dy sothach, ac a dynnaf ymaith dy holl alcam.
26Adferaf hefyd dy farnwyr fel cynt, a’th gynghoriaid megis yn y dechrau: wedi hynny y’th elwir yn Ddinas cyfiawnder, yn Dref ffyddlon.
27Seion a waredir â barn, a’r rhai a ddychwelant ynddi â chyfiawnder.
28A dinistr y troseddwyr a’r pechaduriaid fydd ynghyd; a’r rhai a ymadawant â’r ARGLWYDD, a ddifethir.
29Canys cywilyddiant o achos y derw a chwenychasoch; a gwarthruddir chwi am y gerddi a ddetholasoch.
30Canys byddwch fel derwen â’i dail yn syrthio, ac fel gardd heb ddwfr iddi.
31A’r cadarn fydd fel carth, a’i weithydd fel gwreichionen: a hwy a losgant ill dau ynghyd, ac ni bydd a’u diffoddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.