Lefiticus 12 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Os gwraig a feichioga, ac a esgor ar wryw; yna bydded aflan saith niwrnod: fel dyddiau gwahaniaeth ei misglwyf y bydd hi aflan.

3A’r wythfed dydd yr enwaedir ar gnawd ei ddienwaediad ef.

4A thri diwrnod ar ddeg ar hugain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth: na chyffyrdded â dim sanctaidd, ac na ddeued i’r cysegr, nes cyflawni dyddiau ei phuredigaeth.

5Ond os ar fenyw yr esgor hi; yna y bydd hi aflan bythefnos, megis yn ei gwahaniaeth: a chwe diwrnod a thrigain yr erys yng ngwaed ei phuredigaeth.

6A phan gyflawner dyddiau ei phuredigaeth ar fab neu ferch; dyged oen blwydd yn offrwm poeth, a chyw colomen, neu durtur, yn aberth dros bechod, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod:

7Ac offrymed efe hynny gerbron yr ARGLWYDD, a gwnaed gymod drosti: a hi a lanheir oddi wrth gerddediad ei gwaed. Dyma gyfraith yr hon a esgor ar wryw neu ar fenyw.

8Ac os ei llaw ni chyrraedd werth oen, yna cymered ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn offrwm poeth, a’r llall yn aberth dros bechod: a gwnaed yr offeiriad gymod drosti; a glân fydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help