1Gwrandewch, blant, addysg tad, ac erglywch i ddysgu deall.
2Canys yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi addysg dda: na wrthodwch fy nghyfraith.
3Canys yr oeddwn yn fab i’m tad, yn dyner ac yn annwyl yng ngolwg fy mam.
4Efe a’m dysgai, ac a ddywedai wrthyf, Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw fy ngorchmynion, a bydd fyw.
5Cais ddoethineb, cais ddeall: na ad dros gof, ac na ŵyra oddi wrth eiriau fy ngenau.
6Nac ymâd â hi, a hi a’th geidw: câr hi, a hi a’th wared di.
7Pennaf peth yw doethineb: cais ddoethineb; ac â’th holl gyfoeth cais ddeall.
8Dyrchafa di hi, a hithau a’th ddyrchafa di: hi a’th ddwg di i anrhydedd, os cofleidi hi.
9Hi a rydd ychwaneg o ras i’th ben di: ie, hi a rydd i ti goron gogoniant.
10Gwrando, fy mab, a derbyn fy ngeiriau; a blynyddoedd dy fywyd a amlheir.
11Yr ydwyf yn dy ddysgu yn ffordd doethineb; ac yn dy dywys yn llwybrau uniondeb.
12Pan rodiech, dy gerddediad ni bydd gyfyng; a phan redech, ni thramgwyddi.
13Ymafael mewn addysg, ac na ollwng hi: cadw hi; canys dy fywyd di yw hi.
14Na ddos i lwybr yr annuwiolion, ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus.
15Gochel hi, na ddos ar hyd-ddi; cilia oddi wrthi hi, a dos heibio.
16Canys ni chysgant nes gwneuthur drwg; a’u cwsg a gollant, nes iddynt gwympo rhyw ddyn.
17Canys y maent yn bwyta bara annuwioldeb, ac yn yfed gwin trais.
18Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd.
19Eithr ffordd y drygionus sydd fel y tywyllwch: ni wyddant wrth ba beth y tramgwyddant.
20Fy mab, gwrando ar fy ngeiriau: gogwydda dy glust at fy ymadroddion.
21Na ad iddynt fyned ymaith o’th olwg: cadw hwynt yng nghanol dy galon.
22Canys bywyd ydynt i’r neb a’u caffont, ac iechyd i’w holl gnawd.
23Cadw dy galon yn dra diesgeulus; canys allan ohoni y mae bywyd yn dyfod.
24Bwrw oddi wrthyt enau taeogaidd, a gwefusau trofaus ymhell oddi wrthyt.
25Edryched dy lygaid yn uniawn; ac edryched dy amrantau yn uniawn o’th flaen.
26Ystyria lwybr dy draed: a threfner dy holl ffyrdd yn uniawn.
27Na thro ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy; symud dy droed oddi wrth ddrygioni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
