1A phan oedd Dareius yn teyrnasu, efe a wnaeth wledd fawr i’w holl ddeiliaid, ac i’w holl deulu, ac i holl lywodraethwyr Media a Phersia,
2Ac i’r holl benaethiaid, a’r blaenoriaid, a’r swyddwyr oedd tano ef, o India hyd Ethiopia, trwy gant a saith ar hugain o daleithiau.
3Ac wedi iddynt fwyta ac yfed, a’u digoni, hwy a aethant ymaith: a’r brenin Dareius a aeth i’w stafell, ac a gysgodd ychydig, ac a ddeffrôdd.
4Yna y tri wŷr ieuainc, y rhai oedd yn cadw corff y brenin, a ddywedasant y naill wrth y llall,
5Dyweded pob un ohonom ni air godidog: a’r neb a orchfygo, ac y gweler ei air yn ddoethach na’r lleill, Dareius y brenin a ddyry iddo ef fawr roddion, yn arwydd o fuddugoliaeth;
6Sef gwisgo porffor, ac yfed mewn llestri aur, a chysgu mewn dillad goreuraid, a cherbyd â ffrwynau o aur, a gwisg pen o sidan, a chadwyn am ei wddf:
7Ac efe a gaiff eistedd yn nesaf at Dareius oherwydd ei ddoethineb, ac efe a elwir yn gâr i Dareius.
8Yna pob un a sgrifennodd ei air, ac a’i seliodd: a hwy a’u rhoddasant dan obennydd y brenin Dareius,
9Ac a ddywedasant, Pan ddeffrô’r brenin, y rhoddir iddo’r ysgrifen; a phwy bynnag y barno’r brenin a thri thywysog Persia, fod ei air yn ddoethaf, efe a gaiff y fuddugoliaeth, fel yr ysgrifennwyd.
10Un a sgrifennodd, Trechaf yw gwin.
11Y llall a sgrifennodd, Trechaf yw brenin.
12Y trydydd a sgrifennodd, Trechaf yw gwragedd; ond uwchlaw pob peth, Gwirionedd a orchfyga.
13A phan ddeffrôdd y brenin, hwy a gymerasant eu sgrifennau, ac a’u rhoddasant iddo, ac efe a’u darllenodd hwynt.
14Ac efe a yrrodd i alw am holl bendefigion Persia a Media, a’r penaethiaid, a’r blaenoriaid, a’r llywodraethwyr, a’r swyddwyr.
15Ac efe a eisteddodd yn y frawdle: a’r sgrifennau a ddarllenwyd ger eu bron hwynt.
16Yna efe a ddywedodd, Gelwch y gwŷr ieuainc, fel y mynegont eu geiriau eu hunain. Felly hwy a’u galwasant, a hwythau a ddaethant i mewn.
17Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hysbyswch i ni y sgrifennau. Yna y cyntaf a ddechreuodd, yr hwn a ddywedasai am nerth y gwin,
18Ac a ddywedodd fel hyn; O chwychwi wŷr, mor nerthol yw gwin, yr hwn sydd yn twyllo pob dyn a’r a’i hyfo!
19Y mae efe yn gwneuthur yr un meddwl gan y brenin a chan yr amddifad, gan y caeth a’r rhydd, gan y tlawd a’r cyfoethog.
20Y mae efe yn troi pob meddwl i ddigrifwch a llawenydd, fel na chofio dyn na thristwch na dyled.
21Ac y mae efe yn gwneuthur pob calon yn hael, ac ni feddwl am frenin na phennaeth; ac efe a bair adrodd y cwbl wrth dalentau.
22A phan fyddont wedi yfed, nid argofiant garu na chyfeillion na brodyr; ac wedi hynny ar fyrder y tynnant gleddyfau.
23Ac wedi iddynt ddadebru o’r gwin, ni ddaw yn eu cof beth a wnaethant.
24Ha wŷr, onid trechaf yw gwin, yr hwn sydd yn peri y cyfryw bethau? Ac wedi iddo ef ddywedyd felly, efe a dawodd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.