Jeremeia 14 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Jeremeia o achos y drudaniaeth.

2Galara Jwda, a’i phyrth a lesgânt; y maent yn ddu hyd lawr, a gwaedd Jerwsalem a ddyrchafodd i fyny.

3A’u boneddigion a hebryngasant eu rhai bychain i’r dwfr: daethant i’r ffosydd, ni chawsant ddwfr; dychwelasant â’u llestri yn weigion: cywilyddio a gwladeiddio a wnaethant, a chuddio eu pennau.

4Oblegid agennu o’r ddaear, am nad oedd glaw ar y ddaear, cywilyddiodd y llafurwyr, cuddiasant eu pennau.

5Ie, yr ewig hefyd a lydnodd yn y maes, ac a’i gadawodd, am nad oedd gwellt.

6A’r asynnod gwylltion a safasant yn y lleoedd uchel; yfasant wynt fel dreigiau: eu llygaid hwy a ballasant, am nad oedd gwellt.

7O ARGLWYDD, er i’n hanwireddau dystiolaethu i’n herbyn, gwna di er mwyn dy enw: canys aml yw ein cildynrwydd ni; pechasom i’th erbyn.

8Gobaith Israel, a’i geidwad yn amser adfyd, paham y byddi megis pererin yn y tir, ac fel ymdeithydd yn troi i letya dros noswaith?

9Paham y byddi megis gŵr wedi synnu? fel gŵr cadarn heb allu achub? eto yr ydwyt yn ein mysg ni, ARGLWYDD, a’th enw di a elwir arnom: na ad ni.

10Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr ARGLWYDD hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â’u pechodau.

11Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Na weddïa dros y bobl hyn am ddaioni.

12Pan ymprydiant, ni wrandawaf eu gwaedd hwynt; a phan offrymant boethoffrwm a bwyd-offrwm, ni byddaf bodlon iddynt: ond â’r cleddyf, ac â newyn, ac â haint, y difâf hwynt.

13Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, wele, mae y proffwydi yn dywedyd wrthynt, Ni welwch chwi gleddyf, ac ni ddaw newyn atoch; eithr mi a roddaf heddwch sicr i chwi yn y lle yma.

14Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y proffwydi sydd yn proffwydo celwyddau yn fy enw i; nid anfonais hwy, ni orchmynnais iddynt chwaith, ac ni leferais wrthynt: gau weledigaeth, a dewiniaeth, a choegedd, a thwyll eu calon eu hun, y maent hwy yn eu proffwydo i chwi.

15Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD am y proffwydi sydd yn proffwydo yn fy enw i, a minnau heb eu hanfon hwynt, eto hwy a ddywedant, Cleddyf a newyn ni bydd yn y tir hwn; Trwy gleddyf a newyn y difethir y proffwydi hynny.

16A’r bobl y rhai y maent yn proffwydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt-hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.

17Am hynny y dywedi wrthynt y gair yma, Difered fy llygaid i ddagrau nos a dydd, ac na pheidiant: canys â briw mawr y briwyd y wyry merch fy mhobl, ac â phla tost iawn.

18Os af fi allan i’r maes, wele rai wedi eu lladd â’r cleddyf; ac o deuaf i mewn i’r ddinas, wele rai llesg o newyn: canys y proffwyd a’r offeiriad hefyd sydd yn amgylchu i dir nid adwaenant.

19Gan wrthod a wrthodaist ti Jwda? neu a ffieiddiodd dy enaid di Seion? paham y trewaist ni, ac nad oes i ni feddyginiaeth? disgwyliasom am heddwch, ac nid oes daioni; ac am amser iachâd, ac wele flinder.

20Yr ydym yn cydnabod, ARGLWYDD, ein camwedd, ac anwiredd ein tadau; oblegid ni a bechasom yn dy erbyn di.

21Na ffieiddia ni, er mwyn dy enw, ac na fwrw i lawr orseddfa dy ogoniant: cofia, na thor dy gyfamod â ni.

22A oes neb ymhlith oferedd y cenhedloedd a wna iddi lawio? neu a rydd y nefoedd gawodau? Onid ti yw efe, O ARGLWYDD ein DUW ni? am hynny arnat ti y disgwyliwn ni: canys ti a wnaethost y pethau hyn oll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help