1 Cronicl 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Y rhai hyn hefyd oedd feibion Dafydd, y rhai a anwyd iddo ef yn Hebron; y cyntaf-anedig Amnon, o Ahinoam y Jesreeles: yr ail, Daniel, o Abigail y Garmeles:

2Y trydydd, Absalom mab Maacha, merch Talmai brenin Gesur: y pedwerydd, Adoneia mab Haggith:

3Y pumed, Seffateia o Abital: y chweched, Ithream o Egla ei wraig.

4Chwech a anwyd iddo yn Hebron; ac yno y teyrnasodd efe saith mlynedd a chwe mis: a thair blynedd ar ddeg ar hugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

5A’r rhai hyn a anwyd iddo yn Jerwsalem; Simea, a Sobab, a Nathan, a Solomon, pedwar, o Bathsua merch Ammiel:

6Ibhar hefyd, ac Elisama, ac Eliffelet,

7A Noga, a Neffeg, a Jaffia,

8Ac Elisama, Eliada, ac Eliffelet, naw.

9Dyma holl feibion Dafydd, heblaw meibion y gordderchwragedd, a Thamar eu chwaer hwynt.

10A mab Solomon ydoedd Rehoboam: Abeia ei fab yntau; Asa ei fab yntau; a Jehosaffat ei fab yntau;

11Joram ei fab yntau; Ahaseia ei fab yntau; Joas ei fab yntau;

12Amaseia ei fab yntau; Asareia ei fab yntau; Jotham ei fab yntau;

13Ahas ei fab yntau; Heseceia ei fab yntau; Manasse ei fab yntau;

14Amon ei fab yntau; Joseia ei fab yntau.

15A meibion Joseia; y cyntaf-anedig oedd Johanan, yr ail Joacim, y trydydd Sedeceia, y pedwerydd Salum.

16A meibion Joacim; Jechoneia ei fab ef, Sedeceia ei fab yntau.

17A meibion Jechoneia; Assir, Salathiel ei fab yntau,

18Malciram hefyd, a Phedaia, a Senasar, Jecameia, a Hosama, a Nedabeia.

19A meibion Pedaia; Sorobabel, a Simei a meibion Sorobabel; Mesulam, a Hananeia, a Selomith eu chwaer hwynt:

20A Hasuba, ac Ohel, a Berecheia, a Hasadeia, Jusab-hesed, pump.

21A meibion Hananeia; Pelatia a Jesaia: meibion Reffaia, meibion Arnan, meibion Obadeia, meibion Sechaneia.

22A meibion Sechaneia; Semaia: a meibion Semaia; Hattus, ac Igeal, a Bareia, a Nearia, a Saffat, chwech.

23A meibion Nearia; Elioenai, a Heseceia, ac Asricam, tri.

24A meibion Elioenai oedd, Hodaia, ac Eliasib, a Phelaia, ac Accub, a Johanan, a Dalaia, ac Anani, saith.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help