1A Darfu, ar ôl dyddiau lawer, wedi i’r ARGLWYDD roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.
2A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu penaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:
3Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr ARGLWYDD eich DUW i’r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr ARGLWYDD eich DUW yw yr hwn a ymladdodd drosoch.
4Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tua’r gorllewin.
5A’r ARGLWYDD eich DUW a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr ARGLWYDD eich DUW wrthych.
6Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tua’r llaw ddeau na thua’r llaw aswy;
7Ac na chydymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymoch iddynt:
8Ond glynu wrth yr ARGLWYDD eich DUW, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.
9Canys yr ARGLWYDD a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac amdanoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.
10Un gŵr ohonoch a erlid fil: canys yr ARGLWYDD eich DUW yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.
11Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr ARGLWYDD eich DUW.
12Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyda chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn atynt hwy, a hwythau atoch chwithau:
13Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr ARGLWYDD eich DUW y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi.
14Ac wele fi yn myned heddiw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr ARGLWYDD eich DUW amdanoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim ohonynt.
15Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr ARGLWYDD eich DUW wrthych; felly y dwg yr ARGLWYDD arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr ARGLWYDD eich DUW i chwi.
16Pan droseddoch gyfamod yr ARGLWYDD eich DUW, a orchmynnodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; yna y llidia digofaint yr ARGLWYDD yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.