1Gwrandewch y gair hwn a godaf i’ch erbyn, sef galarnad, O dŷ Israel.
2Y wyry Israel a syrthiodd; ni chyfyd mwy: gadawyd hi ar ei thir; nid oes a’i cyfyd.
3Canys y modd hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Y ddinas a aeth allan â mil, a weddill gant; a’r hon a aeth allan ar ei chanfed, a weddill ddeg i dŷ Israel.
4Oherwydd fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Israel; Ceisiwch fi, a byw fyddwch.
5Ond nac ymgeisiwch â Bethel, ac nac ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerseba: oherwydd gan gaethgludo y caethgludir Gilgal, a Bethel a fydd yn ddiddim.
6Ceisiwch yr ARGLWYDD, a byw fyddwch; rhag iddo dorri allan yn nhŷ Joseff fel tân, a’i ddifa, ac na byddo a’i diffoddo yn Bethel.
7Y rhai a drowch farn yn wermod, ac a adewch gyfiawnder ar y llawr,
8Ceisiwch yr hwn a wnaeth y saith seren, ac Orion, ac a dry gysgod angau yn foreddydd, ac a dywylla y dydd yn nos; yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr ARGLWYDD yw ei enw:
9Yr hwn sydd yn nerthu yr anrheithiedig yn erbyn y cryf, fel y delo yr anrheithiedig yn erbyn yr amddiffynfa.
10Cas ganddynt a geryddo yn y porth, a ffiaidd ganddynt a lefaro yn berffaith.
11Oherwydd hynny am i chwi sathru y tlawd, a dwyn y beichiau gwenith oddi arno; chwi a adeiladasoch dai o gerrig nadd, ond ni thrigwch ynddynt; planasoch winllannoedd hyfryd, ac nid yfwch eu gwin hwynt.
12Canys mi a adwaen eich anwireddau lawer, a’ch pechodau cryfion: y maent yn blino y cyfiawn, yn cymryd iawn, ac yn troi heibio y tlawd yn y porth.
13Am hynny y neb a fyddo gall a ostega yr amser hwnnw: canys amser drwg yw.
14Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni; fel y byddoch fyw: ac felly yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, fydd gyda chwi, fel y dywedasoch.
15Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: fe allai y bydd ARGLWYDD DDUW y lluoedd yn raslon i weddill Joseff.
16Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, DUW y lluoedd, yr Arglwydd; Ym mhob heol y bydd cwynfan, ac ym mhob priffordd y dywedant, O! O! a galwant yr arddwr i alaru; a’r neb a fedro alaru, i gwynfan.
17Ac ym mhob gwinllan y bydd cwynfan: canys tramwyaf trwy dy ganol di, medd yr ARGLWYDD.
18Gwae y neb sydd yn dymuno dydd yr ARGLWYDD! beth yw hwnnw i chwi? tywyllwch, ac nid goleuni yw dydd yr ARGLWYDD.
19Megis pe ffoai gŵr rhag llew, ac arth yn cyfarfod ag ef; a myned i’r tŷ, a phwyso ei law ar y pared, a’i frathu o sarff.
20Oni bydd dydd yr ARGLWYDD yn dywyllwch, ac nid yn oleuni? yn dywyll iawn, ac heb lewyrch ynddo?
21Caseais a ffieiddiais eich gwyliau, ac nid aroglaf yn eich cymanfaoedd.
22Canys er i chwi offrymu i mi boethoffrymau, a’ch offrymau bwyd, ni fyddaf fodlon iddynt; ac nid edrychaf ar hedd-offrwm eich pasgedigion.
23Symud oddi wrthyf drwst dy ganiadau: canys ni wrandawaf beroriaeth dy nablau.
24Ond rheded barn fel dyfroedd, a chyfiawnder fel ffrwd gref.
25A offrymasoch chwi i mi aberthau a bwyd-offrymau yn y diffeithwch ddeugain mlynedd, tŷ Israel?
26Ond dygasoch babell eich Moloch a Chïwn, eich delwau, seren eich duw, a wnaethoch i chwi eich hunain.
27Am hynny y caethgludaf chwi i’r tu hwnt i Damascus, medd yr ARGLWYDD; DUW y lluoedd yw ei enw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.