Y Salmau 139 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 139I’r Pencerdd, Salm Dafydd.

1 ARGLWYDD, chwiliaist, ac adnabuost fi.

2Ti a adwaenost fy eisteddiad a’m cyfodiad: deelli fy meddwl o bell.

3Amgylchyni fy llwybr a’m gorweddfa; a hysbys wyt yn fy holl ffyrdd.

4Canys nid oes air ar fy nhafod, ond wele, ARGLWYDD, ti a’i gwyddost oll.

5Amgylchynaist fi yn ôl ac ymlaen, a gosodaist dy law arnaf.

6Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi: uchel yw, ni fedraf oddi wrthi.

7I ba le yr af oddi wrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o’th ŵydd?

8Os dringaf i’r nefoedd, yno yr wyt ti: os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno.

9Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y môr:

10Yno hefyd y’m tywysai dy law, ac y’m daliai dy ddeheulaw.

11Pe dywedwn, Diau y tywyllwch a’m cuddiai; yna y byddai y nos yn oleuni o’m hamgylch.

12Ni thywylla y tywyllwch rhagot ti; ond y nos a oleua fel dydd: un ffunud yw tywyllwch a goleuni i ti.

13Canys ti a feddiennaist fy arennau: toaist fi yng nghroth fy mam.

14Clodforaf di; canys ofnadwy a rhyfedd y’m gwnaed: rhyfedd yw dy weithredoedd; a’m henaid a ŵyr hynny yn dda.

15Ni chuddiwyd fy sylwedd oddi wrthyt, pan y’m gwnaethpwyd yn ddirgel, ac y’m cywreiniwyd yn iselder y ddaear.

16Dy lygaid a welsant fy annelwig ddefnydd; ac yn dy lyfr di yr ysgrifennwyd hwynt oll, y dydd y lluniwyd hwynt, pan nad oedd yr un ohonynt.

17Am hynny mor werthfawr yw dy feddyliau gennyf, O DDUW! mor fawr yw eu swm hwynt!

18Pe cyfrifwn hwynt, amlach ydynt na’r tywod: pan ddeffrowyf, gyda thi yr ydwyf yn wastad.

19Yn ddiau, O DDUW, ti a leddi yr annuwiol: am hynny y gwŷr gwaedlyd, ciliwch oddi wrthyf:

20Y rhai a ddywedant ysgelerder yn dy erbyn; dy elynion a gymerant dy enw yn ofer.

21Onid cas gennyf, O ARGLWYDD, dy gaseion di? onid ffiaidd gennyf y rhai a gyfodant i’th erbyn?

22A chas cyflawn y caseais hwynt: cyfrifais hwynt i mi yn elynion.

23Chwilia fi, O DDUW, a gwybydd fy nghalon: prawf fi, a gwybydd fy meddyliau;

24A gwêl a oes ffordd annuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragwyddol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help