Eseia 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Usseia, y gwelais hefyd yr ARGLWYDD yn eistedd ar eisteddfa uchel a dyrchafedig, a’i odre yn llenwi y deml.

2Y seraffiaid oedd yn sefyll oddi ar hynny: chwech adain ydoedd i bob un: â dwy y cuddiai ei wyneb, ac â dwy y cuddiai ei draed, ac â dwy yr ehedai.

3A llefodd y naill wrth y llall, ac a ddywedodd, Sanct, Sanct, Sanct, yw ARGLWYDD y lluoedd, yr holl ddaear sydd lawn o’i ogoniant ef.

4A physt y rhiniogau a symudasant gan lef yr hwn oedd yn llefain, a’r tŷ a lanwyd gan fwg.

5Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf: oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd.

6Yna yr ehedodd ataf un o’r seraffiaid, ac yn ei law farworyn a gymerasai efe oddi ar yr allor mewn gefel:

7Ac a’i rhoes i gyffwrdd â’m genau, ac a ddywedodd, Wele, cyffyrddodd hwn â’th wefusau, ac ymadawodd dy anwiredd, a glanhawyd dy bechod.

8Clywais hefyd lef yr ARGLWYDD yn dywedyd, Pwy a anfonaf? a phwy a â drosom ni? Yna y dywedais, Wele fi, anfon fi.

9Ac efe a ddywedodd, Dos, a dywed wrth y bobl hyn, Gan glywed clywch, ond na ddeellwch; a chan weled gwelwch, ond na wybyddwch.

10Brasâ galon y bobl hyn, a thrymha eu clustiau, a chae eu llygaid; rhag iddynt weled â’u llygaid, a chlywed â’u clustiau, a deall â’u calon, a dychwelyd, a’u meddyginiaethu.

11Yna y dywedais, Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd,

12Ac i’r ARGLWYDD bellhau dynion, a bod ymadawiad mawr yng nghanol y wlad.

13Ac eto bydd ynddi ddegwm, a hi a ddychwel, ac a borir; fel y llwyfen a’r dderwen, y rhai wrth fwrw eu dail y mae sylwedd ynddynt: felly yr had sanctaidd fydd ei sylwedd hi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help