1Macabeus hefyd a’r rhai oedd gydag ef, trwy fod yr Arglwydd yn llywydd iddynt, a enillodd drachefn y ddinas a’r deml.
2A hwy a fwriasant i lawr yr allorau a’r capelau a wnaethai’r Cenhedloedd yn yr heolydd.
3Ac wedi glanhau’r deml, hwy a wnaethant allor arall: ac wedi iddynt daro tân allan o gerrig tanllyd, hwy a offrymasant aberth yn ôl dwy flynedd, ac a arlwyasant arogl-darth, a llusernau, a bara gosod.
4Wedi hynny hwy a atolygasant i’r Arglwydd, gan syrthio i lawr ar eu hwynebau, na byddai iddynt mwyach syrthio mewn cyfryw ddrygau; ond os pechent drachefn un amser, bod iddo ef ei hun eu cosbi trwy drugaredd, ac na roddai ddim ohonynt mwy i’r cablaidd a’r creulon genhedloedd.
5A’r dydd hefyd yr halogasid y deml gan y dieithriaid, y digwyddodd gwneuthur puredigaeth y deml yr un dydd, sef y pumed dydd ar hugain o fis Casleu.
6A hwy a gadwasant â llawenydd wyth niwrnod, megis ar ddydd gŵyl y pebyll, gan gofio fel y gorfuasai iddynt ychydig o’r blaen gadw gŵyl y pebyll yn y mynyddoedd a’r ogofeydd yn ôl modd anifeiliaid.
7Am hynny hwy a gymerasant ganghennau a cheinciau hardd, a blodau, ac a ganasant salmau i’r hwn a roddasai iddynt rwydd-deb i lanhau ei fangre ei hun.
8Hwy a ordeiniasant hefyd trwy gyffredin orchymyn a deddf, bod ymysg holl genedl yr Iddewon gadw y dyddiau hyn yn ŵyl bob blwyddyn.
9Ac fel hyn y bu ddiwedd Antiochus a gyfenwid Epiffanes.
10Weithian hefyd ni a fynegwn y pethau a wnaethpwyd yn amser Eupator Antiochus, yr hwn ydoedd fab y gŵr annuwiol hwnnw, gan grynhoi ynghyd y drygau y rhai oblegid rhyfeloedd a ganlynasant.
11Canys hwn, wedi cymryd arno y deyrnas, a osododd ryw un a elwid Lysias i fod yn olygwr ar ei faterion, ac a’i pwyntiodd ef yn ben-capten ar Celo-Syria a Phenice.
12Canys Ptolemeus, yr hwn a enwasid Macron, â’i fryd ar wneuthur cyfiawnder â’r Iddewon, oblegid y cam a wnaethai iddynt, a aeth ynghylch dwyn eu materion hwy i ben yn heddychol.
13Am hynny efe a gyhuddwyd gerbron Eupator gan ei geraint, ac efe a alwyd yn fynych yn fradychwr, oblegid gadael ohono Cyprus, yr hon a roddasai Philometor yn ei gadwraeth ef, a myned ohono at Antiochus Epiffanes: am hynny pan welodd nad ydoedd mewn bri ardderchog, efe a ddigalonnodd, ac a’i gwenwynodd ei hun, ac a fu farw.
14Ond pan wnaethpwyd Gorgias yn ben-llywydd ar y lleoedd hyn, efe a gyflogodd estroniaid, ac a ryfelodd yn wastad yn erbyn yr Iddewon.
15Yr Idumeaid hefyd a flinent yr Iddewon, gan ennill y lleoedd cedyrn; a thrwy dderbyn y rhai a yrrid ar herw o Jerwsalem, hwy a ymroddasant i gadw rhyfel.
16Am hynny y rhai oedd gyda Macabeus, trwy weddïo o ddeisyfasant ar Dduw fod yn gymhorthwr iddynt: ac yna hwy a ruthrasant ar gedyrn leoedd yr Idumeaid.
17I’r rhai pan redasant yn rymus, hwy a enillasant yr amddiffynfeydd; ac wedi iddynt ddal ar yr holl rai oedd ar y gaer, hwy a laddasant y rhai a gyfarfyddent, ac a ddieneidiasant nid llai nag ugain mil.
18Canys pan gydffoesai naw mil o’r lleiaf i ddau gastell cadarn dros ben, gan fod ganddynt bob peth angenrheidiol i ddioddef y gwarchae,
19Macabeus a adawodd Simon, a Joseff, a Saccheus hefyd, a’r rhai oedd gyda hwynt, i amgylchu y tyrau, ac a aeth ei hun lle yr oedd mwy o eisiau.
20Ond y rhai oedd gyda Simon, am eu bod yn chwannog i arian, a lygrwyd ag arian gan y rhai oedd yn y tyrau: ac wedi cymryd deng mil a thrigain o ddrachmau, hwy a adawsant i rai ffoi.
21Pan fynegwyd i Macabeus yr hyn a wnaethid, efe a gynullodd ynghyd bendefigion y bobl, ac a achwynodd arnynt ddarfod iddynt werthu eu brodyr am arian, gan ollwng eu gelynion yn rhydd i ymladd yn eu herbyn hwynt.
22Am hynny efe a’u lladdodd hwynt, wedi eu cael yn fradwyr, ac yn ddisymwth efe a enillodd y ddau dŵr hynny.
23A chan gael llwyddiant â’i arfau yn yr holl bethau a gymerodd efe mewn llaw, efe a laddodd fwy nag ugain mil yn y ddwy amddiffynfa hynny.
24Timotheus hefyd, yr hwn a ddarfuasai i’r Iddewon ei orchfygu o’r blaen, wedi casglu llawer o luoedd dieithr, a llawer o wŷr meirch o Asia, a ddaeth megis ar fedr ennill Jwdea wrth arfau.
25Ond y rhai oedd gyda Macabeus, pan ydoedd efe yn nesáu, a droesant i weddïo ar Dduw, ac a daenasant bridd ar eu pennau, ac a wregysasant eu llwynau â sachliain,
26Ac a syrthiasant i lawr wrth droed yr allor, ac a atolygasant iddo drugarhau wrthynt, a bod yn elyn i’w gelynion, a gwrthwynebu eu gwrthwynebwyr, megis ag y mynega’r gyfraith.
27Ac wedi diweddu’r weddi, hwy a gymerasant eu harfau, ac a aethant ymhellach oddi wrth y ddinas: a phan ddaethant yn agos at eu gelynion, hwy a arosasant ar eu pennau eu hun.
28Yr awron pan ymddangosodd cyfodiad haul, hwy a aethant ill dau ynghyd; y naill ran a chanddynt ynghyd â’u rhinwedd, yr Arglwydd yn noddfa, ac yn wystl llwyddiant a buddugoliaeth; a’r tu arall yn gwneuthur eu llid yn llywydd eu rhyfel.
29A phan oedd y gad yn dost, fe a ymddangosodd i’r gelynion o’r nef, bum gŵr harddwychion ar feirch â ffrwynau aur, a dau ohonynt a flaenorasant yr Iddewon;
30Ac a gymerasant Macabeus rhyngddynt, ac a’i gorchuddiasant o bob tu â’u harfau, ac a’i cadwasant yn ddiniwed; eithr saethasant bicellau a mellt yn erbyn y gelynion: am hynny wedi eu myned yn benbleth gan ddallineb, ac yn llawn trallod, hwy a gwympwyd.
31Ac fe laddwyd o wŷr traed ugain mil a phum cant, ac o wŷr meirch chwe chant.
32Ond am Timotheus, efe a ffodd i amddiffynfa gadarn a elwid Gasara, lle yr ydoedd Chereas yn llywydd.
33Ond y rhai oedd gyda Macabeus a amgylchynasant yr amddiffynfa yn galonnog bedwar diwrnod.
34A’r rhai oedd oddi mewn yn ymddiried yng nghadernid y lle, a gablasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant eiriau ffiaidd.
35Ond pan oleuodd hi y pumed dydd, ugain o wŷr ieuainc o’r rhai oedd gyda Macabeus, yn llosgi yn eu meddyliau oblegid y cablau, a osodasant ar y gaer yn wrol, ac â meddwl gwylltaidd a laddasant bob un a gyfarfyddai â hwynt.
36Eraill yr un modd yn dringo ar eu hôl hwynt, tra’r oeddynt hwy yn brysur â’r rhai oedd oddi mewn, a losgasant y tyrau, ac wedi cynnau tân a losgasant y cablwyr yn fyw; ac eraill a dorasant y pyrth, ac wedi iddynt dderbyn i mewn y darn arall o’r llu, a enillasant y ddinas,
37Ac a laddasant Timotheus, yr hwn oedd wedi ymguddio mewn rhyw geuffos, a’i frawd Chereas, ac Apoloffanes.
38Wedi darfod iddynt wneuthur y pethau hyn, hwy a folianasant yr Arglwydd â hymnau, ac â rhoddi diolch, yr hwn a wnaethai bethau cymaint i Israel, ac a roddasai iddynt yr oruchafiaeth.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.