1Na fydd elyn yn lle cyfaill: canys felly y cei enw drwg, gwarth a gwaradwydd, yn etifeddiaeth: felly y caiff y pechadur daudafodiog amarch.
2Na ymddyrcha yng nghyngor dy enaid dy hun, rhag llarpio dy enaid fel tarw.
3Ti a fwytei dy ddail, ac a golli dy ffrwyth, ac a’th ollyngi dy hun fel pren crin.
4Enaid drygionus sydd yn difetha ei berchennog, ac yn ei wneuthur ei hun yn watworgerdd i’w elynion.
5Genau melys sydd yn amlhau cyfeillion: a thafod ymadroddus sydd yn amlhau ymadroddion teg.
6Bydd heddychol â llawer; eithr bydded dy gynghorwr un o fil.
7Os mynni di gael cyfaill, cais ef mewn profedigaeth; ac nac ymddiried iddo ar frys amdanat dy hun;
8Canys y mae cyfaill dros ei amser ei hun, ac nid erys yn nydd dy drallod di.
9Ac y mae cyfaill a dry yn elyn, ac yn gecrus, ac a ddatguddia dy waradwydd di.
10Ac y mae cyfaill a fydd cyfrannog o’r bwrdd; eithr yn nydd dy drallod nid erys efe.
11Ac yn dy fyd da efe a fydd fel tithau, ac efe a fydd hy ar dylwyth dy dŷ di.
12Os darostyngir di, efe a fydd i’th erbyn, ac a ymguddia o’th ŵydd.
13Ymneilltua oddi wrth dy elynion, a gochel dy gyfeillion.
14Amddiffyn cadarn yw cyfaill ffyddlon; a’r hwn a gafodd y cyfryw, a gafodd drysor.
15Nid oes dim a gystadla gyfaill ffyddlon, ac nid oes a gydbwysa ei degwch ef.
16Eli einioes yw cyfaill ffyddlon; a’r rhai sy’n ofni’r Arglwydd, a’i cânt ef.
17Yr hwn sydd yn ofni’r Arglwydd, sydd yn cyfarwyddo ei gyfeillach yn uniawn: canys fel y byddo efe, y bydd ei gymydog hefyd.
18Fy mab, casgl addysg o’th ieuenctid, a thi a gei ddoethineb hyd henaint.
19Tyred ati fel un yn aredig ac yn hau; ymaros hefyd am ei ffrwythau daionus hi: oblegid ychydig boen a gymeri di yn ei gwaith hi, a buan y bwytei o’i chnwd hi.
20Y mae hi yn chwerw iawn i’r annysgedig: a’r digalon nid erys gyda hi.
21Megis maen prawf cryf y bydd hi arno ef; ac nid oeda efe ei bwrw hi ymaith.
22Oblegid y mae doethineb yn ôl ei henw, ac nid yw hi amlwg i lawer.
23Gwrando, fy mab, derbyn fy marn i, ac na wrthod fy nghyngor.
24Dyro dy draed yn ei llyffetheiriau hi, a’th wddf yn ei chadwyn.
25Gostwng dy ysgwydd, a dwg hi, ac na fydd elyn i’w rhwymau hi.
26Tyred ati â’th holl enaid, a chadw ei ffyrdd hi â’th holl allu.
27Olrhain, a chais, a thi a gei ei hadnabod hi; a phan gaffech afael arni, na ollwng hi ymaith.
28Oblegid o’r diwedd ti a gei ei gorffwystra hi; a hynny a dry yn llawenydd i ti.
29A’i llyffetheiriau hi a fydd i ti yn amddiffyn cadarn, a’i chadwynau yn wisg ogoneddus.
30Oherwydd y mae arni hi wychder euraid; a’i rhwymau sydd ysnoden borffor.
31Fel gwisg ogoneddus y gwisgi di hi; ac fel coron orfoleddus y gosodi hi amdanat.
32Os mynni, fy mab, ti a fyddi ddysgedig; ac os rhoddi dy feddwl, ti a fyddi gall.
33Os ceri wrando, ti a dderbynni ddeall; ac os gostyngi dy glust, ti a fyddi doeth.
34Saf ymysg henuriaid; a’r neb a fyddo doeth, glŷn wrtho ef.
35Myn glywed pob traethawd duwiol, ac na ddihanged diarhebion deallus oddi gennyt.
36O gweli ŵr deallgar, cyfod yn fore ato ef; a threulied dy droed riniogau ei ddrws ef.
37Meddwl am orchmynion yr Arglwydd yn berffaith; a myfyria ar ei orchmynion ef bob amser: efe a sicrha dy galon, a doethineb a roddir i ti wrth dy ddymuniad.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.