1 Samuel 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A bu arch yr ARGLWYDD yng ngwlad y Philistiaid saith o fisoedd.

2A’r Philistiaid a alwasant am yr offeiriaid ac am y dewiniaid, gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i arch yr ARGLWYDD? hysbyswch i ni pa fodd yr anfonwn hi adref.

3Dywedasant hwythau, Os ydych ar ddanfon ymaith arch DUW Israel, nac anfonwch hi yn wag; ond gan roddi rhoddwch iddo offrwm dros gamwedd: yna y’ch iacheir, ac y bydd hysbys i chwi paham nad ymadawodd ei law ef oddi wrthych chwi.

4Yna y dywedasant hwythau, Beth fydd yr offrwm dros gamwedd a roddwn iddo? A hwy a ddywedasant, Pump o ffolennau aur, a phump o lygod aur, yn ôl rhif arglwyddi’r Philistiaid: canys yr un pla oedd arnoch chwi oll, ac ar eich arglwyddi.

5Am hynny y gwnewch luniau eich ffolennau, a lluniau eich llygod sydd yn difwyno’r tir; a rhoddwch ogoniant i DDUW Israel: ysgatfydd efe a ysgafnha ei law oddi arnoch, ac oddi ar eich duwiau, ac oddi ar eich tir.

6A phaham y caledwch chwi eich calonnau, megis y caledodd yr Eifftiaid a Pharo eu calon? pan wnaeth efe yn rhyfeddol yn eu plith hwy, oni ollyngasant hwy hwynt i fyned ymaith?

7Yn awr gan hynny gwnewch fen newydd, a chymerwch ddwy fuwch flith, y rhai nid aeth iau arnynt; a deliwch y buchod dan y fen, a dygwch eu lloi hwynt oddi ar eu hôl i dŷ:

8A chymerwch arch yr ARGLWYDD, a rhoddwch hi ar y fen; a’r tlysau aur, y rhai a roddasoch iddi yn offrwm dros gamwedd, a osodwch mewn cist wrth ei hystlys hi, a gollyngwch hi i fyned ymaith.

9Ac edrychwch, os â hi i fyny ar hyd ffordd ei bro ei hun i Bethsemes; yna efe a wnaeth i ni y mawr ddrwg hwn: ac onid e, yna y cawn wybod nad ei law ef a’n trawodd ni; ond mai damwain oedd hyn i ni.

10A’r gwŷr a wnaethant felly: ac a gymerasant ddwy fuwch flithion, ac a’u daliasant hwy dan y fen, ac a gaeasant eu lloi mewn tŷ:

11Ac a osodasant arch yr ARGLWYDD ar y fen, a’r gist â’r llygod aur, a lluniau eu ffolennau hwynt.

12A’r buchod a aethant ar hyd y ffordd union i ffordd Bethsemes; ar hyd y briffordd yr aethant, dan gerdded a brefu, ac ni throesant tua’r llaw ddeau na thua’r aswy; ac arglwyddi’r Philistiaid a aethant ar eu hôl hyd derfyn Bethsemes.

13A thrigolion Bethsemes oedd yn medi eu cynhaeaf gwenith yn y dyffryn: ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a ganfuant yr arch; ac a lawenychasant wrth ei gweled.

14A’r fen a ddaeth i faes Josua y Bethsemesiad, ac a safodd yno; ac yno yr oedd maen mawr: a hwy a holltasant goed y fen, ac a offrymasant y buchod yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD.

15A’r Lefiaid a ddisgynasant arch yr ARGLWYDD, a’r gist yr hon oedd gyda hi, yr hon yr oedd y tlysau aur ynddi, ac a’u gosodasant ar y maen mawr: a gwŷr Bethsemes a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant ebyrth i’r ARGLWYDD y dydd hwnnw.

16A phum arglwydd y Philistiaid, pan welsant hynny, a ddychwelasant i Ecron y dydd hwnnw.

17A dyma’r ffolennau aur, y rhai a roddodd y Philistiaid yn offrwm dros gamwedd i’r ARGLWYDD; dros Asdod un, dros Gasa un, dros Ascalon un, dros Gath un, dros Ecron un:

18A’r llygod aur, yn ôl rhifedi holl ddinasoedd y Philistiaid, yn perthynu i’r pum arglwydd, yn gystal y dinasoedd caerog, a’r trefi heb gaerau, hyd y maen mawr Abel, yr hwn y gosodasant arno arch yr ARGLWYDD; yr hwn sydd hyd y dydd hwn ym maes Josua y Bethsemesiad.

19Ac efe a drawodd wŷr Bethsemes, am iddynt edrych yn arch yr ARGLWYDD, ie, trawodd o’r bobl ddengwr a thrigain a deng mil a deugain o wŷr. A’r bobl a alarasant, am i’r ARGLWYDD daro’r bobl â lladdfa fawr.

20A gwŷr Bethsemes a ddywedasant, Pwy a ddichon sefyll yn wyneb yr ARGLWYDD DDUW sanctaidd hwn? ac at bwy yr âi efe oddi wrthym ni?

21A hwy a anfonasant genhadau at drigolion Ciriath-jearim, gan ddywedyd, Y Philistiaid a ddygasant adref arch yr ARGLWYDD; deuwch i waered, a chyrchwch hi i fyny atoch chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help