1Bu llaw yr ARGLWYDD arnaf, ac a’m dug allan yn ysbryd yr ARGLWYDD, ac a’m gosododd yng nghanol dyffryn, a hwnnw oedd yn llawn esgyrn.
2Ac efe a wnaeth i mi fyned heibio iddynt o amgylch ogylch: ac wele hwynt yn aml iawn ar wyneb y dyffryn; wele hefyd, sychion iawn oeddynt.
3Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, a fydd byw yr esgyrn hyn? A mi a ddywedais, O Arglwydd DDUW, ti a’i gwyddost.
4Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt, O esgyrn sychion, clywch air yr ARGLWYDD.
5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth yr esgyrn hyn; Wele fi yn dwyn anadl i’ch mewn, fel y byddoch byw.
6Giau hefyd a roddaf arnoch, a pharaf i gig gyfodi arnoch, gwisgaf chwi hefyd â chroen, a rhoddaf anadl ynoch: fel y byddoch byw, ac y gwypoch mai myfi yw yr ARGLWYDD.
7Yna y proffwydais fel y’m gorchmynasid; ac fel yr oeddwn yn proffwydo, bu sŵn, ac wele gynnwrf, a’r esgyrn a ddaethant ynghyd, asgwrn at ei asgwrn.
8A phan edrychais, wele, cyfodasai giau a chig arnynt, a gwisgasai croen amdanynt; ond nid oedd anadl ynddynt.
9Ac efe a ddywedodd wrthyf, Proffwyda tua’r gwynt, proffwyda, fab dyn, a dywed wrth y gwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; O anadl, tyred oddi wrth y pedwar gwynt, ac anadla ar y lladdedigion hyn, fel y byddont byw.
10Felly y proffwydais fel y’m gorchmynasid; a’r anadl a ddaeth ynddynt, a buant fyw, a safasant ar eu traed, yn llu mawr iawn.
11Yna y dywedodd wrthyf, Ha fab dyn, yr esgyrn hyn ydynt dŷ Israel oll: wele, dywedant, Ein hesgyrn a wywasant, a’n gobaith a gollodd; torrwyd ni ymaith o’n rhan ni.
12Am hynny proffwyda, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn agori eich beddau, fy mhobl, codaf chwi hefyd o’ch beddau, a dygaf chwi i dir Israel.
13A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan agorwyf eich beddau, a phan gyfodwyf chwi i fyny o’ch beddau, fy mhobl;
14Ac y rhoddwyf fy ysbryd ynoch, ac y byddoch byw, ac y gosodwyf chwi yn eich tir eich hun: yna y cewch wybod mai myfi yr ARGLWYDD a leferais, ac a wneuthum hyn, medd yr ARGLWYDD.
15A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
16Tithau fab dyn, cymer i ti un pren, ac ysgrifenna arno, I Jwda, ac i feibion Israel ei gyfeillion. A chymer i ti bren arall, ac ysgrifenna arno, I Joseff, pren Effraim, ac i holl dŷ Israel ei gyfeillion:
17A chydia hwynt y naill wrth y llall yn un pren i ti; fel y byddont yn un yn dy law di.
18A phan lefaro meibion dy bobl wrthyt, gan ddywedyd, Oni fynegi i ni beth yw hyn gennyt?
19Dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cymryd pren Joseff, yr hwn sydd yn llaw Effraim, a llwythau Israel ei gyfeillion, a mi a’u rhoddaf hwynt gydag ef, sef gyda phren Jwda, ac a’u gwnaf hwynt yn un pren, fel y byddont yn fy llaw yn un.
20A bydded yn dy law, o flaen eu llygaid hwynt, y prennau yr ysgrifennych arnynt;
21A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Wele fi yn cymryd meibion Israel o fysg y cenhedloedd yr aethant atynt, ac mi a’u casglaf hwynt o amgylch, ac a’u dygaf hwynt i’w tir eu hun;
22A gwnaf hwynt yn un genedl o fewn y tir ym mynyddoedd Israel, ac un brenin fydd yn frenin iddynt oll: ni byddant hefyd mwy yn ddwy genedl, ac ni rennir hwynt mwyach yn ddwy frenhiniaeth:
23Ac ni ymhalogant mwy wrth eu heilunod, na thrwy eu ffieidd-dra, nac yn eu holl anwireddau: eithr cadwaf hwynt o’u holl drigfaon, y rhai y pechasant ynddynt, a mi a’u glanhaf hwynt; fel y byddont yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn DDUW iddynt hwythau.
24A’m gwas Dafydd fydd frenin arnynt; ie, un bugail fydd iddynt oll: yn fy marnedigaethau hefyd y rhodiant, a’m deddfau a gadwant ac a wnânt.
25Trigant hefyd yn y tir a roddais i’m gwas Jacob, yr hwn y trigodd eich tadau ynddo; a hwy a drigant ynddo, hwy a’u meibion, a meibion eu meibion byth; a Dafydd fy ngwas fydd dywysog iddynt yn dragywydd.
26Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod hedd; amod tragwyddol a fydd â hwynt: a gosodaf hwynt, ac a’u hamlhaf, a rhoddaf fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.
27A’m tabernacl fydd gyda hwynt; ie, myfi a fyddaf iddynt yn DDUW, a hwythau a fyddant i mi yn bobl.
28A’r cenhedloedd a gânt wybod mai myfi yr ARGLWYDD sydd yn sancteiddio Israel; gan fod fy nghysegr yn eu mysg hwynt yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.