Y Pregethwr 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Gwylia ar dy droed pan fyddych yn myned i dŷ DDUW, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid; canys ni wyddant hwy eu bod yn gwneuthur drwg.

2Na fydd ry brysur â’th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron DUW: canys DUW sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.

3Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau.

4Pan addunedech adduned i DDUW, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl.

5Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu.

6Na ad i’th enau beri i’th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai DUW wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo?

7Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di DDUW.

8Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na’r uchaf yn gwylied; ac y mae un sydd uwch na hwynt.

9Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.

10Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na’r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd.

11Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i’w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i’w perchennog, ond eu gweled â’u llygaid?

12Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu.

13Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i’w perchennog.

14Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.

15Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o’i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law.

16A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr â efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt?

17Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.

18Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o’i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes DUW iddo: canys hynny yw ei ran ef.

19Ie, i bwy bynnag y rhoddes DUW gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd DUW yw hyn.

20Canys ni fawr gofia efe ddyddiau ei fywyd; am fod DUW yn ateb i lawenydd ei galon ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help