Job 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau!

3Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf.

4Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu DUW a ymfyddinasant i’m herbyn.

5A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant?

6A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy?

7Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi.

8O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai DUW yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl!

9Sef rhyngu bodd i DDUW fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith.

10Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd.

11Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl?

12Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres?

13Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf?

14I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog.

15Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd;

16Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt:

17Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle.

18Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir.

19Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt.

20Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant.

21Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch.

22A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi?

23Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn?

24Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais.

25Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi?

26Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt?

27Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill.

28Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd.

29Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn.

30A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help