Job 26 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Job a atebodd ac a ddywedodd,

2Pwy a gynorthwyaist ti? ai y di-nerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid?

3Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae?

4Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti?

5Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy.

6Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw.

7Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim.

8Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy.

9Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi.

10Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch.

11Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef.

12Efe a ranna y môr â’i nerth; ac a dery falchder â’i ddoethineb.

13Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog.

14Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help