Josua 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Phan glybu Jabin brenin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenin Madon, ac at frenin Simron, ac at frenin Achsaff,

2Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd-dir, ac yn y rhostir tua’r deau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tua’r gorllewin;

3At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd-dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, yng ngwlad Mispe.

4A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyda hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.

5A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.

6A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys yfory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân.

7Felly Josua a ddaeth a’r holl bobl o ryfel gydag ef, yn ddisymwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Meron; a hwy a ruthrasant arnynt.

8A’r ARGLWYDD a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u trawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misreffoth-maim, ac hyd glyn Mispe o du y dwyrain; a hwy a’u trawsant hwynt, fel na adawodd efe ohonynt un yng ngweddill.

9A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr ARGLWYDD iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.

10A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a enillodd Hasor, ac a drawodd ei brenin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.

11Trawsant hefyd bob enaid a’r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.

12A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a’u holl frenhinoedd hwynt, a enillodd Josua, ac a’u trawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchmynasai Moses gwas yr ARGLWYDD.

13Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.

14A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a drawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.

15Fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD i Moses ei was, felly y gorchmynnodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD i Moses.

16Felly Josua a enillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddeau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;

17O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fyny i Seir, hyd Baal-gad, yng nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; trawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth.

18Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.

19Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heblaw yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a enillasant hwy trwy ryfel.

20Canys o’r ARGLWYDD yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod ag Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

21A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Jwda, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd.

22Ni adawyd un o’r Anaciaid yng ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gasa, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.

23Felly Josua a enillodd yr holl wlad, yn ôl yr hyn oll a lefarasai yr ARGLWYDD wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ôl eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orffwysodd heb ryfel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help