Galatiaid 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A hyn yr wyf yn ei ddywedyd: dros gymaint o amser ag y mae’r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwas, er ei fod yn arglwydd ar y cwbl;

2Eithr y mae efe dan ymgeleddwyr a llywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tad.

3Felly ninnau hefyd, pan oeddem fechgyn, oeddem gaethion dan wyddorion y byd:

4Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur dan y ddeddf;

5Fel y prynai’r rhai oedd dan y ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.

6Ac oherwydd eich bod yn feibion, yr anfonodd Duw Ysbryd ei Fab i’ch calonnau chwi, yn llefain, Abba, Dad.

7Felly nid wyt ti mwy yn was, ond yn fab; ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.

8Eithr y pryd hynny, pan oeddech heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.

9Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at yr egwyddorion llesg a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?

10Cadw yr ydych ddiwrnodau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.

11Y mae arnaf ofn amdanoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer.

12Byddwch fel myfi, canys yr wyf fi fel chwi, y brodyr, atolwg i chwi: ni wnaethoch i mi ddim cam.

13A chwi a wyddoch mai trwy wendid y cnawd yr efengylais i chwi y waith gyntaf.

14A’m profedigaeth, yr hon oedd yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch; eithr chwi a’m derbyniasoch megis angel Duw, megis Crist Iesu.

15Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wyf i chwi, pe buasai bosibl, y tynasech eich llygaid, ac a’u rhoesech i mi.

16A euthum i gan hynny yn elyn i chwi, wrth ddywedyd i chwi y gwir?

17Y maent yn rhoi mawr serch arnoch, ond nid yn dda; eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr serch arnynt hwy.

18Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn unig tra fyddwyf bresennol gyda chwi.

19Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hesgor drachefn, hyd oni ffurfier Crist ynoch;

20Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyda chwi, a newidio fy llais; oherwydd yr wyf yn amau ohonoch.

21Dywedwch i mi, y rhai ydych yn chwennych bod dan y ddeddf, onid ydych chwi yn clywed y ddeddf?

22Canys y mae’n ysgrifenedig, fod i Abraham ddau fab; un o’r wasanaethferch, ac un o’r wraig rydd.

23Eithr yr hwn oedd o’r wasanaethferch, a aned yn ôl y cnawd; a’r hwn oedd o’r wraig rydd, trwy’r addewid.

24Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw’r ddau destament; un yn ddiau o fynydd Seina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar:

25Canys yr Agar yma yw mynydd Seina yn Arabia, ac y mae yn cyfateb i’r Jerwsalem sydd yn awr; ac y mae yn gaeth, hi a’i phlant.

26Eithr y Jerwsalem honno uchod sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll.

27Canys ysgrifenedig yw, Llawenha, di’r amhlantadwy, yr hon nid wyt yn epilio; tor allan a llefa, yr hon nid wyt yn esgor: canys i’r unig y mae llawer mwy o blant nag i’r hon y mae iddi ŵr.

28A ninnau, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid.

29Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai’r hwn a anwyd yn ôl yr Ysbryd, felly yr awr hon hefyd.

30Ond beth y mae’r ysgrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch a’i mab: canys ni chaiff mab y wasanaethferch etifeddu gyda mab y wraig rydd.

31Felly, frodyr, nid plant i’r wasanaethferch ydym, ond i’r wraig rydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help