Numeri 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

2Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren.

3Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses.

4Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ôl y dull a ddangosodd yr ARGLWYDD i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.

5Llefarodd yr ARGLWYDD hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

6Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanha hwynt.

7Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnânt i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt.

8Yna cymerant fustach ieuanc a’i fwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod.

9A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd.

10A dwg y Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid.

11Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr ARGLWYDD, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr ARGLWYDD.

12A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech-aberth a’r llall yn offrwm poeth i’r ARGLWYDD, i wneuthur cymod dros y Lefiaid.

13A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r ARGLWYDD.

14A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof fi.

15Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm.

16Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf-anedig o feibion Israel, y cymerais hwynt i mi.

17Canys i mi y perthyn pob cyntaf-anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bobcyntaf-anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun.

18A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf-anedig o feibion Israel.

19A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr.

20A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt.

21A’r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr ARGLWYDD: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w glanhau hwynt.

22Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a’i feibion; megis y gorchmynnodd yr ARGLWYDD wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.

23A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

24Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod.

25Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy.

26Ond gwasanaethed gyda’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help